Skip to content

Cyngor Sir Ynys Môn - Isle of Anglesey County Council

Ydych chi'n poeni am blentyn?


Gallwch gael help trwy ffonio’r Swyddogion Teulu Môn ar 01248 725888.

Os oes angen cymryd camau di-oed i sicrhau diogelwch plentyn dylech gysylltu â’r heddlu

Cadwch eich llygaid a'ch clustiau yn agored. Gwyliwch ein fideo.

Enghreifftiau’n unig yw’r rhain – efallai y byddwch chi’n gweld arwyddion eraill o gamdriniaeth. Os oes gennych unrhyw amheuon gellwch gysylltu â’r gweithiwr cymdeithasol ar ddyletswydd i gael cyngor.

Mae gwahanol fathau o gamdriniaeth plant. Gallai gynnwys:

  • anafu’n gorfforol – fel taro, ysgwyd, pwnio a chicio
  • esgeuluso – peidio â’u bwydo neu eu gwisgo’n iawn neu beidio â bodloni anghenion meddygol
  • camdriniaeth emosiynol – pan na fydd plentyn yn cael digon o gariad neu anwyldeb neu’n cael ei feirniadu, ei fychanu neu ei fwlio’n gyson
  • camdriniaeth rywiol – gan gynnwys ymddygiad neu iaith amhriodol neu ymosodiad

Gellir amddiffyn unrhyw blentyn dan 18 oed yn ôl y gyfraith. Rhaid dilyn Gweithdrefnau Diogelu Cymru 2019.

Os oes gennych unrhyw bryderon am rywun sydd wedi cyrraedd 18 oed efallai y byddant yn gymwys i gael eu hamddiffyn fel oedolyn sydd mewn perygl o gamdriniaeth neu niwed.

Am gyngor ar oedolion a allai fod mewn perygl dylech gysylltu drwy ddefnyddio’r Un Pwynt Mynediad ar 01248 752 752.

Ffoniwch y gweithiwr cymdeithasol ar ddyletswydd ar y rhif ffôn ar yr ochr dde.

Gall y cyhoedd roi gwybod am gamdriniaeth yn ddienw (er nad yw’n bosibl i weithwyr proffesiynol wneud hyn).

Fodd bynnag, mae bob amser yn fwy cynorthwyol i’r gweithiwr cymdeithasol sy’n ymchwilio i’r honiad os yw ef neu hi’n gwybod o le mae’r wybodaeth wedi dod.

Os ydych yn poeni am unrhyw un yn dod yn ôl atoch, gellwch roi eich enw a’ch cyfeiriad i’r gweithiwr cymdeithasol ar Ddyletswydd ond gofyn iddynt beidio â phasio’r wybodaeth hon ymlaen i’r teulu.

Os ydych yn teimlo eich bod yn gallu dweud wrth y rhieni eich bod yn poeni digon am blentyn i gysylltu â gweithiwr cymdeithasol, gall hyn helpu pawb i weithio gyda’i gilydd er lles y plentyn.

Mae gweithwyr cymdeithasol bob amser yn ceisio cynnwys y teulu cymaint â phosibl er mwyn bod yn deg â nhw a chan fod profiad yn dangos bod hyn yn arwain at ganlyniadau gwell i’r plentyn.

Gellwch ffonio’r Gweithiwr Cymdeithasol ar Ddyletswydd i drafod eich pryderon.

Mae’n bosibl na fydd yn cymryd camau gweithredu ar unwaith ond yn cadw cofnod o’ch gwybodaeth fel y bydd yn gwybod bod gennych bryderon eisoes os bydd rhywun arall yn ffonio yn y dyfodol.

Yn yr un modd, mae’n bosibl y bydd ganddo/i gofnod o alwadau ffôn blaenorol gan bobl eraill a fydd, ynghyd â’ch gwybodaeth chi, yn rhoi darlun o blentyn sy’n debygol o fod yn dioddef niwed.

Weithiau mae’n anodd iawn credu bod pobl yn gwneud pethau erchyll i blant. Mae hyd yn oed gweithwyr cymdeithasol profiadol yn dod ar draws sefyllfaoedd sy’n anodd eu credu.

Mae llawer o oedolion sy’n cam-drin plant yn cael eu hoffi a’u parchu gan y bobl o’u cwmpas ac o ganlyniad mae pobl sy’n clywed eu bod wedi bod yn cam-drin plant yn teimlo eu bod wedi gwneud camgymeriad. Mewn sefyllfa fel hon, os byddwch yn cadw’n dawel byddwch yn amddiffyn y camdriniwr yn lle’r plentyn.

Mae gweithwyr cymdeithasol yn ceisio cadw plant gartref gyda’u teuluoedd lle bynnag y bo hynny’n bosibl. 

Yng Nghymru a Lloegr, dim ond rhyw 5% o blant sy’n cael eu hamddiffyn dan weithdrefnau swyddogol sy’n cael eu symud o’u cartrefi.

Mae’r gweddill yn cael eu cefnogi gartref ac yn cael eu hamddiffyn trwy ‘Gynllun Gofal ac Amddiffyn’.

O bryd i’w gilydd bydd y sefyllfa mor anniogel nes bydd plant yn cael ei symud i fyw gyda theulu arall.  Bydd yn cael ei symud at berthynas neu rywun arall y mae’n yn ei adnabod ac sy’n fodlon edrych ar ei ôl lle bynnag y bo hynny’n bosibl.

Dim ond os nad yw hyn yn bosibl y bydd yn symud i fyw at ofalwyr maeth sydd wedi’u hyfforddi a’u cymeradwyo i gwblhau’r rôl. Hyd yn oed ar ôl hynny, bydd y rhieni’n parhau i weld y plentyn oni bai bod y gweithiwr cymdeithasol o’r farn bod hyn yn rhy beryglus.

Dylai pawb sy’n gweithio gyda phlant a theuluoedd fod yn gyfarwydd â pholisïau a gweithdrefnau eu sefydliadau i ddiogelu plant, gan gynnwys pwy i roi gwybod iddynt os oes ganddynt unrhyw bryderon.

Mae’n debygol mai eu rheolwr atebol neu unigolyn penodedig sy’n gyfrifol am amddiffyn plant fydd hyn. Bydd yr unigolyn hwn fel arfer yn gyfrifol am gyfeirio pryderon i’r tîm gwaith cymdeithasol.

Mae rhai sefydliadau, fel ymddiriedolaethau iechyd, yn disgwyl i bob gweithiwr proffesiynol gymryd camau ar eu liwt eu hunain a chyfeirio unrhyw bryderon yn uniongyrchol i’r tîm gwaith cymdeithasol. Dylai pawb fod yn ymwybodol o’r weithdrefn yn eu sefydliad eu hunain cyn i chi orfod rhoi gwybod i rywun am gamdriniaeth neu esgeulustra.

P’un a oes gan eich sefydliad ei bolisi ei hun ai peidio, rhaid i bob gweithiwr proffesiynol ddilyn Gweithdrefnau Diogelu Cymru 2019.