Gwasanaethau'r Cyngor:

Asesu eich anghenion gofal yn y cartref

Parhau i fyw yn eu cartrefi eu hunain yw dewis y rhan fwyaf o bobl.

Weithiau mae angen cymorth a chefnogaeth i wneud hyn.

Darperir gwasanaethau gofal cymunedol gan Adran Tai a Gwasanaethau Cymdeithasol Ynys Môn i geisio helpu pobl i aros gartref drwy ddarparu nifer o wahanol wasanaethau sy’n ychwanegu at y cymorth a geir gan deulu a ffrindiau. Gall y gwasanaethau hyn gynnwys:

  • Gofal cartref a gofal personol
  • Gofal dydd
  • Gwasanaeth gwarchod gan fudiadau gwirfoddol
  • Pryd-ar-glyd neu fwydydd wedi’u rhewi a mynychu clybiau cinio (mewn rhai ardaloedd)
  • Gofal ysbaid o bryd i’w gilydd mewn cartrefi preswyl / nyrsio
  • Cymhorthion
  • Cefnogaeth i Ofalwyr
  • Addasiadau
  • Gwybodaeth a chyngor

Sut mae gwneud cais am y gwasanaeth?

Gall unrhyw un sydd angen cymorth cysylltu’n uniongyrchol gydag Adran Tai a Gwasanaethau Cymdeithasol yn Llangefni (gweler y manylion drwy ddilyn y linc ar waelod y dudalen) neu gall rhywun arall, fel aelod o’ch teulu, ffrind neu y Meddyg Teulu, wneud hyn ar eich rhan. Trefnir i aelod o staff y Gwasanaethau Cymdeithasol ymweld â chi yn eich cartref i drafod a phenderfynu rhyngddo’ch ar y math orau o wasanaeth fyddai’n cwrdd â’ch anghenion chi. Gelwir hyn yn ‘Asesiad’. Mae croeso i aelod o’r teulu neu ffrind fod yn bresennol yn ystod yr asesiad yma. Cofiwch ddweud wrthym os yr ydych yn ddibynnol ar rywun arall am gefnogaeth sylweddol - Gall hyn olygu ein bod angen asesu eu hanghenion nhw hefyd.

Beth fydd y cam nesaf?

Ar ôl cwblhau’r asesiad a chytuno ar y gofal mwyaf addas darperir Cynllun Gofal. Bydd y Cynllun Gofal yn nodi y gofal a gytunwyd arno ynghyd â pha ddyddiau a’r amser o’r dydd y darperir gwasanaeth. Gofynnir i chwi arwyddo’r Cynllun Gofal i nodi eich bod yn cytuno ag ef. Anfonir copi o’r Cynllun Gofal atoch.

Pwy fydd yn darparu’r gwasanaeth?

a) Gofal Cartref:

Gofal personol megis help i ymolchi a gwisgo neu gynhaliaeth trwy baratoi bwyd yw’r rhan fwyaf o’r tasgau a ymgymerir â hwy. Mewn rhai amgylchiadau, efallai y gellir hefyd ymgymryd â rhai tasgau domestig. Gall staff Gofal Cartref y Gwasanaethau Cymdeithasol ddarparu gofal yn y cartref neu fe allwch ddewis i’r gofal gael ei ddarparu gan un o’r Asiantaethau Gofal Cartref Annibynnol sydd wedi derbyn cymeradwyaeth gan yr Adran- eich dewis chi yw hyn. Gall rhai o’r gwasanaethau uchod hefyd gael eu darparu gan y Sector Wirfoddol.

b) Gofal Dydd:

Mae’r un yn wir am ddarparu gwasanaeth gofal dydd. Mae gan yr Adran dair canolfan gofal dydd pwrpasol ar draws Ynys Môn yn ogystal â darpariaeth mewn chwech o gartrefi preswyl yr Adran, neu os hoffech, gallwch ddewis mynychu un o gartrefi preifat ar yr Ynys i dderbyn gofal dydd. Mae Cyngor Henoed Gwynedd a Môn hefyd yn darparu Gofal Dydd a Chlybiau Cinio sy’n hynod o boblogaidd.

c) Prydau:

Gall Adran Tai a Gwasanaethau Cymdeithasol a’r WRVS ddarparu gwasanaeth bwyd yn eich cartref, yn unol â’ch anghenion. Gall hyn fod yn:

  • Bryd Poeth fydd yn cael ei ddanfon i chwi neu
  • Gellir rhoi gwybodaeth i chwi am y modd o sicrhau cyflenwad prydau wedi rhewi i’ch cartref

Oes rhaid talu am y gwasanaeth?

Codir tâl ar y rhan fwyaf o bobl am wasanaeth Gofal Cymunedol. Am fwy o fanylion cysylltwch ag Adran Tai a Gwasanaethau Cymdeithasol neu gweler y ddolen isod.

Gofal cartref am ddim am bobl fregus

Mae Llywodraeth Y Cynulliad wedi neilltuo arian sydd yn galluogi Adrannau Gwasanaethau Cymdeithasol i ddarparu cefnogaeth gofal cartref yn rhad ac am ddim am gyfnod hyd at 6 wythnos (42 diwrnod) i rai pobl fregus sydd wedi eu rhyddhau o ysbytai. Yn ogystal darperir yr un gwasanaeth i bobl sydd angen gofal cartref er mwyn osgoi mynediad amhriodol i’r ysbyty. Fe fydd polisi arferol yr Awdurdod o godi tâl am y gwasanaeth yn ail gychwyn os bydd yr angen am wasanaeth yn parhau wedi’r cyfnod cychwynnol o 6 wythnos.

Pwy sy’n gymwys i dderbyn gofal am ddim?

  • Pobl hyˆn yn ogystal â phobl gydag anableddau neu sy’n gwella yn dilyn salwch ac wedi eu rhyddhau o’r ysbyty ac yn dilyn asesiad o’u hanghenion yn cyfarfod meini prawf yr Adran
  • Pobl sydd wedi eu hasesu yn gymwys i dderbyn cefnogaeth ôl ofal ysbyty drwy’r Gwasanaeth Ymateb Brys i hyrwyddo adferiad/gwella, diogelwch ac annibyniaeth yn y cartref
  • Pobl sydd wedi eu hasesu ac yn cyfarfod y meini prawf cymhwyster ar gyfer pecyn gofal iechyd a chymdeithasol ar y cyd
  • Pobl hyˆn yn ogystal â phobl gydag anableddau neu bobl sy’n gwella yn dilyn salwch ac angen gofal cartref er mwyn osgoi treulio amser mewn ysbyty yn ddiangen

Noder

Ni ddarperir gofal cartref am ddim i’r rhai sydd yn mynychu ysbytai yn rheolaidd fel rhan o’u trefniadau gofal parhaus. Mae hyn yn cynnwys pobl sydd yn mynd i mewn ac allan o ysbytai i dderbyn gofal ysbaid neu driniaeth ysbeidiol.

Lle ddylwn gysylltu i gael rhagor o wybodaeth a/neu i wneud cais am wasanaeth?

Mae’r cyfeiriad a’r rhif ffôn i gysylltu am ragor o wybodaeth ynglyn ag unrhyw bwynt a nodwyd uchod a /neu i wneud cais am asesiad o’ch anghenion ar gael drwy ddilyn y linc isod.

Y drefn gwyno

Mae Adran Tai a Gwasanaethau Cymdeithasol yn awyddus i dderbyn adborth gan ddefnyddwyr y gwasanaethau ynglyn â’r ffordd yr ydym yn trefnu gwasanaethau. Mae gennych hawl hefyd i gyflwyno cwyn swyddogol i’r Adran os ydych yn anfodlon gyda’n gwasanaeth. Dilynwch y linc isod i ein tudalen gwynion.

Diweddariad diwethaf: 6 Ebr 2010 Rhowch adborth ar y dudalen hon
Llyfrnodwch gyda:
| More |

Beth yw'r rhain?