Cynllun TasgMôn
-
Ynglyn â
-
Dogfennau i'w lawrlwytho
Gwasanaeth gan Cyngor Sir Ynys Môn a Gofal a Thrwsio Môn yw Cynllun TasgMôn, i bobl dros 70 oed neu bobl anabl i gael man atgyweirio buan yn eu tai a sicrhau diogelwch yn eu cartrefi.
Pwy sy’n cymwys?
Pobl dros 70 oed a/neu pobl anabl:
- sydd yn berchen tŷ, neu’n denantiaid (unai yn y sector gyhoeddus neu’r sector breifat).
- sydd heb deulu, neu berson arall, a fyddai yn gallu gwneud / trefnu gwneud y gwaith ar eu rhan;
- y byddaii yn eu gallu i fyw yn ddiogell ac yn annibynnol yn eu cartref dab fygythiad oni bo’r gwaith yn cael ei gwblhau
Sut gallwn fod o gymorth?
Gellir cwblhau nifer o wahanol waith o gynnal a chadw a man atgyweirio o dan y Cynllun TasgMôn ee
- ail osod drysau
- atgyweirio ffenestri, ail osod gwydr
- glanhau cwteri
- trwsio giatiau, ffensio
- gwaith coed cyffredinol
- gwaith plymio bychan ee trwsio tapiau sy’n gollwng
- gwaith trydanol elfennol ee weirio plygiau, newid bylbiau
- gwaith diogelwch sef gosod neu newid cloeon, a chyfarpar diogelwch
Ni fydd y Cynllun TasgMôn yn cynnwys gwaith fyddai’n arferol i berson proffesiynol ei ymgymryd.
Beth yw’r gost?
Bydd y cleient yn talu cost unrhyw ddefnyddiau a £20.
Cyfyngir y gwaith a wneir o fewn y cynllun i fân waith ac nad yw’n wasanaeth sy’n cael ei gynnig gan y landlord, Cyngor Sir Ynys Môn neu Rhaglen Addasiadau Ymateb Brys Gofal a Thrwsio Môn.
Gwybodaeth bellach
I dderbyn y gwasanaeth cysylltwch â:
Gofal a Thrwsio Môn Cyf
33 - 35 Stryd Fawr,
Llangefni
Ynys Môn
LL777NA
Ffôn: 01248 750625
Ffacs: 01248 750358
ebost: gath@taieryri.co.ukCwmni
Cyfyngedig drwy warant ac elusen gofrestredig rhif 1095483
Dylai defnyddwyr sydd yn anfodlon gyda gwasanaeth y Cynllun TasgMôn gyfeirio gwynion at rheolydd Gofal a Thrwsio Môn ar rif ffon: 01248 750625.
Gweler y tab uchod i weld poster gan y cynllun, sy’n rhoi y wybodaeth uchaf.




