Gwasanaeth larwm Gofal Môn
Gwasanaeth 24awr sy’n cael ei ddarparu gan Gyngor Sir Ynys Môn - Cymorth trwy bwyso botwm.
Waeth beth fo’ch amgylchiadau, hen, ifanc neu anabl, mae gwasanaeth Gofal Môn ar eich cyfer chi ac yn sicrhau eich bod yn cadw eich annibyniaeth tra’n rhoi tawelwch meddwl i chi ar yr un pryd. Trwy osod cyfarpar arbennig, gall Gofal Môn roi gwasanaeth 24 awr y dydd.
Bydd tîm profiadol, cyfeillgar yn ymateb yn gyflym i’ch galwad a sicrhau eich bod yn derbyn y cymorth yr ydych ei angen mor fuan â phosib.
Sut mae’r sustem yn gweithio?
Mae galw am gymorth yn syml. Does ond eisiau i chi bwyso’r botwm coch ar yr uned neu’r pendant ac o fewn ychydig byddwch mewn cysylltiad â Gofal Môn.
Bydd aelod o’r tîm yn eich clywed ac yn anfon am gymorth yn syth, gan gadw cysylltiad i’ch cysuro nes daw cymorth.
Bydd y Ganolfan yn anfon am ffrindiau, teulu, doctor neu am wasanaeth brys fel bo’r angen.
Sut mae gosod uned?
Os yw eich ffôn yn un arbennig e.e. gyda rhifau breision neu fod gwell gennych offer syml, yna mae uned lai ar gael sydd yn cysylltu i’ch ffôn arferol.
- mae angen plwg BT diweddar a chyflenwad trydan i weithio’r offer.
- mae dichon prynu neu hurio’r cyfarpar, gweler rhestr o’r prisiau (heb TAW)
Beth Nesa?
Peidiwch ag oedi, cysylltwch â ni rŵan am fwy o fanylion neu i drefnu gweld offer yn rhad ac am ddim. Gweler y manylion cyswllt uchod.




