Taliadau Uniongyrchol
Fe all pobl sydd wedi cael eu hasesu o fod angen cymorth gan y Gwasanaethau Cymdeithasol ofyn i dderbyn Taliadau Uniongyrchol er mwyn diwallu eu hanghenion am ofal personol.
Rhaid i’r Unigolyn wedyn ddefnyddio’r arian i brynu eu gofal eu hunain yn hytrach na derbyn gwasanaethau gofal yn uniongyrchol gan yr Adran Gwasanaethau Cymdeithasol.
Os cytunir wedi’r asesiad, eich bod yn gymwys i dderbyn gwasanaeth gofal yn y gymuned, fe allwch ofyn i dderbyn taliad misol i drefnu’r gwasanaethau yma eich hun.
Pwy all dderbyn taliad uniongyrchol?
Dim ond pobl sydd wedi cael eu hasesu o fod angen Gwasanaethau Gofal yn y Gymuned all gael y cynnig o dderbyn Taliadau Uniongyrchol. Mae’r bobl ganlynol gyda’r hawl i ofyn am Daliadau Uniongyrchol ar gyfer prynu gwasanaethau.
- pobl ifanc 16/17 oed gydag anableddau /salwch
- pobl ifanc 16/17 oed sy’n gofalu am eraill
- pobl sydd rwng 18 a 64 mlwydd oed gydag anableddau
- pobl dros 65 mlwydd oed
- gofalwyr sy’n darparu gofal ar gyfer oedolion tros 18 oed gydag anableddau a / neu salwch
Dim ond pobl sy’n fodlon derbyn Taliad Uniongyrchol fydd yn cael eu hystyried. Bydd hyn yn golygu fod cymryd rhan yn gwbl wirfoddol. Ni allwch gael eich gorfodi i gymryd rhan yn y cynllun ac fe allwch ofyn i dderbyn gwasanaeth yn uniongyrchol gan y Gwasanaethau Cymdeithasol.
Fel arfer, dim ond pobl sydd angen pum awr neu fwy o wasanaeth yr wythnos y gellir darparu Taliadau Uniongyrchol, ac mae’n rhaid i’r Defnyddwyr Gwasanaeth allu derbyn Taliad Uniongyrchol naill ai eu hunain neu gyda chymorth.
Mae’r dewis o ymuno yn y cynllun yn agored i unigolion sy’n barod i dderbyn gwasanaethau gan y Gwasanaethau Cymdeithasol am y tro cyntaf yn ogystal â’r rhai sydd eisoes yn derbyn cymorth gan yr Adran.
Pa fanteision sydd o dderbyn taliadau uniongyrchol?
Bwriad Taliad Uniongyrchol yw rhoi gwell rheolaeth i Ddefnyddwyr Gwasanaeth dros bwy, sut, pryd a ble fyddent yn derbyn cymorth a chefnogaeth er mwyn hyrwyddo gwell annibyniaeth, hyblygrwydd a dewis. Yn y ffordd yma, bydd y person sy’n darparu cymorth yn atebol i’r sawl sy’n derbyn y Taliad Uniongyrchol yn hytrach nag Adran Gwasanaethau Cymdeithasol.
Er enghraifft, fe all rhywun sydd angen cymorth i godi o’r gwely yn y bore gael anhawster mewn derbyn gwasanaeth ar amser sy’n gyfleus iddynt hwy oherwydd bod y Gofalydd Cartref angen ymweld â nifer o unigolion eraill. Gall Defnyddwyr Gwasanaeth sy’n derbyn Taliad Uniongyrchol gyflogi rhywun sy’n cynnig y cymorth y maent angen ar amser sy’n gyfleus iddynt hwy.
Beth mae’r awdurdod yn ei ddisgwyl gan ddefnyddiwr gwasanaeth?
Cyn derbyn eich Taliad Uniongyrchol cyntaf mae angen i chwi arwyddo cytundeb gyda’r Awdurdod Lleol ynglŷn â:
- sut y telir yr arian
- pwrpas a defnydd yr arian
- sut y byddwch yn cadw manylion o’r modd y bydd yr arian yn cael ei wario
Ar gyfer beth y gellir defnyddio’r arian?
Ar hyn o bryd dim ond cymorth personol y gellir ei brynu gyda Thaliad Uniongyrchol e.e. cymorth gyda gofal personol, gwaith glanhau hanfodol a pharatoi bwyd. Ni ellir defnyddio Taliadau Uniongyrchol ar gyfer prynu gofal preswyl.
Faint yw taliad uniongyrchol?
Mae gwahanol raddfeydd wedi eu sefydlu ar gyfer gwahanol wasanaethau gofal sydd wedi ei seilio ar gost pwrcasu’r gwasanaeth gan y darparwr rhataf. Gwneir taliadau pob 28 diwrnod, trwy drosglwyddiad uniongyrchol i gyfrif banc sydd wedi ei sefydlu’n benodol ar gyfer derbyn Taliad Uniongyrchol gan y Defnyddiwr Gwasanaeth.
Yn ystod y drefn o osod Taliad Uniongyrchol fe all Defnyddwyr Gwasanaeth dderbyn un taliad penodol er mwyn eu galluogi i brynu Yswiriant Atebolrwydd ar gyfer Cyflogwyr a’r Cyhoedd fel sydd yn ofynnol iddynt fel rhywun sy’n cyflogi staff i’w wneud.
Fe fydd pawb sy’n derbyn taliad uniongyrchol yn destun asesiad yn unol â Pholisi Codi Tâl Teg am wasanaethau gofal cymunedol yn yr un modd â Defnyddwyr Gwasanaeth arall a bydd y Taliad Uniongyrchol yn cael ei gyflwyno llai eich cyfraniad ariannol tuag at y gofal.
Pwy allaf eu cyflogi?
Gallwch gyflogi rhywun sy’n addas cyn belled nad yw’n perthyn neu’n gymar. Fodd bynnag, fe allwch orfod gwneud rhywfaint o waith gwirio eich hunan yn ogystal â derbyn geirda. Os gwneir defnydd o’r Taliad Uniongyrchol i gyflogi staff yn uniongyrchol yna, fe all y defnyddiwr gwasanaeth ddarganfod eu hunain yn cymryd cyfrifoldeb cyflogwr ymlaen.
Bydd hyn yn golygu eu bod yn gyfrifol am sicrhau eu bod yn cydymffurfio gyda chyfraith sy’n ymwneud â chyflogaeth a rheolaeth gan gynnwys Yswiriant Gwladol (ble bo’n briodol) a thalu Lleiafswm Cyflog Gwladol.




