Skip to content

Cyngor Sir Ynys Môn - Isle of Anglesey County Council

A ydych chwi'n ofalydd?


Mae Cyngor Sir Ynys Môn yn credu bod gan ofalwyr:

  • Yr hawl i gael eu trin gyda chwrteisi, parch ac urddas ac fel partner cyfartal. Rhaid ymgynghori gyda gofalwyr ac mae partneriaeth gydag asiantaethau statudol yn hanfodol
  • Yr hawl i asesiad priodol o anghenion gofalwyr a hynny ar wahân i anghenion y person y maent yn gofalu amdano/amdani
  • Yr hawl i ddweud Na! Ni ddylid gofyn i ofalwyr ymdopi gyda sefyllfa os yw hynny’n andwyol i’w hiechyd a’u lles nhw eu hunain
  • Yr hawl i ddisgwyl gwasanaeth sy’n darparu gwybodaeth sy’n hawdd i’w defnyddio, yn gynhwysfawr, yn gywir, yn hwylus ac yn ymatebol i anghenion unigol
  • Yr hawl i’w bywyd eu hunain yn arbennig felly’r cyfle i dreulio amser gyda theulu a ffrindiau neu gyda’r person y maent yn gofalu amdano/amdani ond yn rhydd o’r cyfrifoldebau gofalu arferol
  • Yr hawl i wasanaethau priodol sy’n rheolaidd, yn ddibynadwy ac yn effeithiol ond sydd hefyd yn hyblyg - gwasanaeth y gellir ymddiried ynddo. Mae hyn yn cynnwys yr hawl i help/cefnogaeth mewn argyfwng/ar fyr rybudd

Mae gofalwyr yn edrych ar ôl aelodau’r teulu neu ffrindiau sydd angen gofal, help neu gefnogaeth oherwydd gwaeledd, anabledd neu oed. Fel arfer oedolion neu bobl ifanc yw gofalwyr ac nid ydynt fel arfer yn cael tâl.

Mae’r rhan fwyaf o ofalwyr yn ynysig ac yn ddi-gefnogaeth ac ni fedr rhai gael swyddi cyflogedig, mynd ar gyrsiau hyfforddiant neu gael bywyd cymdeithasol oherwydd eu cyfrifoldebau gofalu.

Gall bod yn ofalwr dalu ar ei ganfed ond gall hefyd droi eich bywyd ben ucha’n isa neu ddweud arnoch yn raddol.

Mae Gofalwyr â rhan hanfodol mewn cymdeithas ac mae gennych yr hawl i:

  • Asesiad o’ch anghenion eich hun fel gofalwr (asesiad gofalwyr)
  • Gwybodaeth a chyngor ar y gwasanaethau a all fod ar gael i chwi a’r person yr ydych yn gofalu amdano/amdani
  • Help a chefnogaeth i’ch cynorthwyo chi yn eich rôl ofalu
  • Cael dweud eich dweud ac i’ch sylwadau gael eu cymryd i ystyriaeth
Os oes angen fersiwn mwy hygyrch arnoch, anfonwch neges at digidol@ynysmon.llyw.cymru er mwyn i ni allu eich helpu.