Gwasanaethau'r Cyngor:

Asesiad gofalwr

Os na fydd y person cyntaf i chwi siarad gydag gallu ateb eich holl gwestiynau, byddwn yn trefnu i naill ai Weithiwr Cymdeithasol neu Swyddog Adolygu Gofalwyr ymweld â chwi adref er mwyn:

  • egluro’r sefyllfa yn llawn
  • rhoddi gwybodaeth i chwi o’r gwasanaethau sydd ar gael
  • cynnig cyngor a chymorth
  • ymgymryd ag asesiad llawn o’ch anghenion fel gofalydd yn ogystal ag anghenion y perthynas / cyfaill sy’n ddibynnol arnoch a thrafod pa wasanaethau gall eu darparu i gyfarfod ag eich anghenion

Er mwyn ymgymryd ag asesiad llawn, fe all fod yn angenrheidiol i gynnwys pobl o broffesiynau eraill megis Therapydd Galwedigaethol, Ymgynghorydd Anabledd, neu Broffesiwn Iechyd Cymunedol arall. Efallai yn dilyn eich caniatâd y bydd angen i ni gysylltu â’ch meddyg. Mewn argyfwng, byddwn yn trefnu i’ch anghenion gael eu hasesu o fewn 24 awr. Mewn argyfwng ar benwythnos a chyfnodau gwyliau dylech gysylltu â’r Gwasanaeth Allan o Oriau - dilynwch y tab “cysylltiadau” uchod.

Diweddariad diwethaf: 15 Mai 2008 Rhowch adborth ar y dudalen hon
Llyfrnodwch gyda:
| More |

Beth yw'r rhain?