Skip to content

Cyngor Sir Ynys Môn - Isle of Anglesey County Council

Pa wasanaethau sydd ar gael i ofalwyr?


Mae gan Ofalwyr yr hawl i dderbyn ysbaid ystyrlon er mwyn darparu seibiant oddi wrth gyfrifoldebau gofalu a chael cyfle i wella ansawdd eu bywydau. Gall hyn gynnwys cyfleoedd i fynd i siopa, ymweld â ffrindiau, neu ddilyn unrhyw weithgaredd hamddena, addysg neu hyfforddiant, cychwyn parhau neu ddychwelyd i waith. 

Mae ystod o wasanaethau ar gael i’ch helpu mewn amgylchiadau o’r fath. Ein bwriad yw trefnu a darparu gwasanaethau cefnogol, hyblyg yn ystod unrhyw amser yn y dydd, penwythnosau ac ambell waith yn ystod y nos gan amrediad o ddarparwyr gwahanol sydd wedi  eu cymeradwyo. Os ydych angen seibiant oddi wrth ofalu neu os ydych yn mynd i ffwrdd ar wyliau, gellir darparu gofal ysbaid yn y cartref preswyl neu nyrsio i’r person sy’n ddibynnol arnoch.

Mae gennych yr hawl i dderbyn Taliadau Uniongyrchol gan yr Awdurdod Lleol er mwyn eich galluogi i brynu gwasanaethau cefnogol eich hun yn unol ag eich anghenion sydd wedi eu hasesu.

Gall yr aelod o staff sy’n ymgymryd â’r asesiad neu’r Swyddog Adolygu Gofalwyr gynnig mwy o wybodaeth a chyngor a rhestr o asiantaethau wedi eu cymeradwyo sy’n gallu darparu gwasanaethau cefnogol.

O dan Strategaeth Gofalwyr yng Nghymru, darperir cymorth ariannol gan Lywodraeth y Cynulliad sydd wedi galluogi datblygiad y gwasanaethau canlynol ar yr Ynys. 

  • gwasanaethau cefnogol ac ysbeidiau hamddena oddi wrth ofalu trwy Cynnal Gofalwyr
  • gofal dydd i bobl â dementia yn ystod yr wythnos a phenwythnosau trwy Age Cymru Gwynedd a Môn
  • gwasanaethau cefnogol hyblyg i ddarparu ysbeidiau ystyrlon oddi wrth ofalu trwy wasanaethau cymdeithasol ac amrediad o ddarparwyr eraill wedi eu cymeradwyo 
  • gwasanaethau gofal a chefnogaeth trwy Gofal Croesffyrdd Gogledd Cymru
  • gwasanaethau cefnogol trwy Wasanaeth Cefnogi Teuluoedd a ddarperir gan Hafal ar gyfer gofalwyr pobl ag anghenion iechyd meddwl
  • gwasanaethau cefnogol i ofalwyr pobl â dementia trwy Gymdeithas Clefyd Alzheimers Gwynedd a Môn
  • ysbaid dros nos a phenwythnosau i rieni plant a phobl ifanc gydag anableddau a neu salwch tymor hir
  • cefnogaeth ac ysbeidiau hamdden ar gyfer Gofalwyr Ifanc trwy Gynllun Gofalwyr Ifanc Gweithredu dros Blant

Gallwch gofrestru fel gofalydd gyda Chynnal Gofalwyr er mwyn derbyn eu gwasanaethau ac i elwa o gyfarfod gofalwyr eraill a rhannu profiadau. Gall Gwasanaeth Cynnal Gofalwyr ddarparu’r canlynol.

  • gwybodaeth, cyngor a chefnogaeth ar ofalu’n gyffredinol
  • gweithgareddau cymdeithasol a hamdden i roi cyfle i chwi gael ysbaid oddi wrth ofalu
  • cyngor ar ofalu am eich iechyd a’ch lles eich hunan
  • gweithgareddau hyfforddiant a therapiwtig 
  • grwpiau cefnogol sydd ar gael ar Ynys Môn
  • cymorth i drefnu gofal i’ch perthynas / cyfaill sy’n ddibynnol arnoch tra byddwch yn mynychu gweithgareddau eraill
  • cynllunio ar gyfer gwasanaeth mewn argyfwng

Yn ogystal mae Gwasanaeth Cynnal Gofalwyr yn trefnu Fforwm Gofalwyr ar Ynys Môn er mwyn eich galluogi chwi i gael llais mewn cynllunio a datblygu gwasanaethau.

  • rhywun i siarad â nhw
  • gwybodaeth ynghylch egwyl/ysbaid a gwasanaethau cefnogol eraill
  • help i gael i waith, hyfforddiant a hamdden
  • cyfleon hyfforddi
  • help i gael budd-daliadau lles
  • newyddlen reolaidd
  • modd o gael at amrediad eang o lyfrau, taflenni a chyhoeddiadau
  • cefnogaeth ac eiriolaeth i gael help arall yr ydych yn ei angen

Rhaglen Cleifion Arbenigol Cymru

Darperir cyngor ar sut  sicrhau eich bod yn gallu cael amser i chi eich hunain er mwyn diwallu eich anghenion trwy Raglen Cleion Arbenigol Cymru. Y nod yw darparu cymorth i ofalwyr i gael mwy o reolaeth o’u hamser er mwyn eu galluogi i ddilyn cyfleoedd hamdden, cymdeithasol, addysg, a chyflogaeth, er mwyn gwella ansawdd eu bywydau.

Mae’r Gwasanaeth Argyfwng y tu allan i Oriau Swyddfa yn ymateb ar frys i achosion o argyfwng gofal cymdeithasol y tu allan i oriau swyddfa arferol, ar ŵyl y banc ac ar y penwythnos.

Ffôn: 01248 353 551