Skip to content

Cyngor Sir Ynys Môn - Isle of Anglesey County Council

Asesiad gofalwr


Mae gan y Gwasanaethau Cymdeithasol ddyletswydd i asesu eich anghenion.

Bydd eich asesiad yn nodi’r mathau o gefnogaeth a all fod ar gael i chi.  Gallant gynnwys:

  • Rhoi egwyl/ysbaid i chi megis cefnogaeth yn eich cartref neu ofal preswyl neu ofal dydd ar gyfer y person  yr ydych yn gofalu amdano/amdani
  • Offer a fydd yn eich helpu chi i edrych ar ôl y person yr ydych yn gofalu amdano/amdani
  • Rhywbeth arall pwysig i chwi a fydd yn gwneud gwahaniaeth
  • Taliadau uniongyrchol y gallwch eu defnyddio i brynu gwasanaethau

Lle i gael Gwybodaeth a Chefnogaeth 

Cysylltwch â’r Adran Tai a Gwasanaethau Cymdeithasol ar 01248 752752

Os yw eich perthynas neu’ch ffrind dibynnol yn yr ysbyty, gallwch ofyn am asesiad drwy’r staff nyrsio ar y ward neu trwy gysylltu gyda’r Tîm Gwaith Cymdeithasol yn Ysbyty Gwynedd ar  01248 384968.

Os yw eich perthynas neu’ch ffrind dibynnol yn derbyn cefnogaeth trwy’r Tîm Iechyd Meddwl Cymunedol, gallwch gysylltu gyda Hafod Las ar 01248 750191 neu Craig Hyfryd ar 01407 764231.

Gallwch hefyd ofyn am asesiad trwy eich meddygfa leol. Fel rhan o’u cytundeb, disgwylir i bob meddygfa fod â gweithdrefn weithredol sy’n eu galluogi i adnabod gofalwyr a’u cyfeirio at y Gwasanaethau Cymdeithasol, ble’n briodol.

Os na fydd y person cyntaf  i chwi siarad gydag yn gallu ateb eich holl gwestiynau, byddwn yn trefnu i naill ai Weithiwr Cymdeithasol neu Swyddog Adolygu Gofalwyr ymweld â chwi adref, er mwyn:  

  • Egluro’r sefyllfa yn llawn
  • Rhoddi gwybodaeth i chwi o’r gwasanaethau sydd ar gael
  • Cynnig cyngor a chymorth
  • Ymgymryd ag asesiad llawn o’ch anghenion fel gofalydd yn ogystal ag anghenion y perthynas / cyfaill  sy’n ddibynnol arnoch a thrafod pa wasanaethau gall eu darparu i gyfarfod  ag eich anghenion

Er mwyn ymgymryd ag asesiad llawn, fe all fod yn angenrheidiol i gynnwys pobl o broffesiynau eraill megis Therapydd Galwedigaethol, Ymgynghorydd Anabledd, neu Broffesiwn Iechyd Cymunedol arall. Efallai yn dilyn eich caniatâd, bydd angen i ni gysylltu â’ch meddyg.   

Mewn argyfwng, byddwn yn trefnu i’ch anghenion gael eu hasesu o fewn 24 awr. Mewn argyfwng ar benwythnos a chyfnodau gwyliau, dylech gysylltu â’r Gwasanaeth Allan o Oriau ar 01248 353551 neu gellir derbyn cyngor gan NHS direct drwy ffonio 0845 4647.