Skip to content

Cyngor Sir Ynys Môn - Isle of Anglesey County Council

Gwneud cais am asesiad gofal ac iechyd ar-lein


Ein nod yw cefnogi a chynnal annibyniaeth pobl. Byddwn yn gwneud hyn drwy gefnogi pobl i fyw yn eu cartrefi cyhyd ag y bo modd.

Beth yw asesiad gofal cymdeithasol?

Os ydych yn credu eich bod chi, aelod o’r teulu, cymydog, ffrind neu berson rydych yn gofalu amdano angen gwybodaeth, cyngor a/neu cyfeirio at gymorth cymunedol cyffredinol a, lle bo’n briodol, mynediad i wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol cymunedol, gallwn eich helpu i ddod o hyd i’r ateb mwyaf priodol.

Nid oes angen i chi dalu am asesiad.

Siaradwch â ni

Os bydd angen i chi siarad â swyddog dyletswydd gwasanaethau cymdeithasol ar unwaith, os oes Argyfwng neu os nad ydych wedi clywed gennym o fewn 3 diwrnod gwaith o lenwi’r ffurflen ar-linell, yna ffoniwch 01248 752 752.

Mae oriau agor rhwng 8.45am a 5.05pm, dydd Llun i ddydd Iau a rhwng 8.45am a 5pm ar ddydd Gwener. Ar gyfer Argyfyngau tu allan o oriau arferol, defnyddiwch 01248 353 551.

Pa mor hir y bydd yn cymryd i lenwi’r ffurflen?

Bydd y ffurflen ar-lein yn cymryd rhwng 10 a 15 munud i’w gwblhau. Gellir cadw’r ffurflen os ydych wedi cofrestru gyda ni, er mwyn ei llenwi wrth eich pwysau. Gallwch lenwi’r ffurflen yn un ymweliad, neu ei gadw a’i gwblhau dros fwy o sesiynau.

Dywedwch wrthym gymaint â phosibl am eich sefyllfa er mwyn ein helpu i ddeall eich anghenion.

Sut ydych chi'n cofrestru ar y porth ar-lein?

Nid oes rhaid i chi greu cyfrif i ddefnyddio platfform Fy Nghyfrif Môn, ond rydym yn argymell eich bod yn gwneud hynny. Bydd cyfrif yn caniatáu i chi reoli eich ceisiadau gwasanaeth a chyfrifon gyda ni.

Gwybodaeth bellach am Fy Nghyfrif Môn.

Nodwch y canlynol cyn llenwi ein ffurflen cyfeirio ar-lein:

Os gyfeirio ar ran rhywun arall, rhaid i chi gael caniatâd y person yr ydych yn cyfeirio.

Pa wybodaeth fydd ei hangen arnoch chi?

Bydd angen y wybodaeth ganlynol:

  • manylion Personol y person yr ydych yn cyfeirio (enw, cyfeiriad, rhif ffôn, rhyw ac ati)
  • dyddiad geni
  • crefydd, ethnigrwydd, statws priodasol

Beth fydd yn digwydd nesaf?

Bydd Swyddog Dyletswydd Gwasanaethau Cymdeithasol yn cysylltu â chi, eich teulu neu eich gofalwr yn eich dewis iaith, i drafod eich anghenion. Darparwn gwybodaeth, cyngor a chymorth ar sut y gellir cwrdd orau a’ch anghenion.

Gall hyn gynnwys cefnogaeth i ddarganfod gwasanaethau cymunedol yn eich ardal eich hun. Byddwn yn parchu eich preifatrwydd ac yn eich perthynas â’ch teulu neu ofalwyr a bydd unrhyw wybodaeth amdanoch yn cael ei chadw’n gyfrinachol cyhyd ac nad oes risg i chi neu rywun arall.

Os ydych yn ansicr, gallwch ofyn i ni am gyngor pellach drwy gysylltu â ni.