Skip to content

Cyngor Sir Ynys Môn - Isle of Anglesey County Council

Anableddau dysgu


Gwybodaeth am wasanaethau sydd ar gael i bobl gydag anableddau dysgu a’u gofalwyr ar Ynys Môn, a sut i gael mynediad atynt.

Sut mae cael mynediad i’r gwasanaethau?

Mae gan Gwasanaethau Cymdeithasol Ynys Môn ddyletswydd o dan ‘Ddeddf Anabledd a Salwch Difrifol 1970’ i gadw cofrestr o bobl gydag anabledd dysgu ar Ynys Môn.

Mae’r diffiniad o anabledd dysgu a fabwysiadwyd o fewn Gwasanaethau Anabledd Dysgu Ynys Môn yn dilyn yr hyn a ddefnyddir yn ‘Health of a Nation’ - A Strategy for People with Learning Disability (1995).

  • gallu cyfyngedig i ddeall gwybodaeth newydd neu gymhleth ar gyfer dysgu sgiliau newydd (amhariad ar ddeallusrwydd) a
  • gallu cyfyngedig i ymdopi’n annibynnol (amhariad ar gyfranogiad cymdeithasol) a
  • ddechreuodd cyn i’r person ddod i oed oedolyn gydag effaith parhaol

Er mwyn cael mynediad at wasanaethau, mae’n rhaid asesu pobl yn erbyn y meini prawf hyn a rhoddir eu henwau ar Gofrestr Anableddau Dysgu Ynys Môn.

Cynhelir asesiad amlddisgyblaethol sy’n cynnwys -

  • asesiad cymdeithasol o anghenion person mewn perthynas â chynnal safon ddigonol o annibyniaeth yn y gymuned
  • asesiad o sgiliau / cynhwysiad ymddygiad gan y Tîm Nyrsio
  • asesiad seicolegol ar allu unigolion i adnabod /amgyffred

Beth sy’n digwydd nesaf?

Unwaith ydych wedi eich derbyn ar y Gofrestr Anableddau Dysgu bydd asesiad gofal cymdeithasol yn cael ei weithredu yn erbyn canllawiau Mynediad i Wasanaeth.

Efallai bydd Cydlynydd Gofal wedyn yn cael ei benodi i:

  • cyd-gordio asesiad o anghenion yr unigolyn a’i d/theulu
  • datblygu pecyn gofal
  • gweithredu, monitro ac addasu’r cynllun fel bo angen
  • adolygu’r cynllun yn ffurfiol o leiaf unwaith yn flynyddol

Bydd lefel gwasanaeth a ddarperir yn ddibynnol ar gymhlethdod yr angen, y gofyniad am ymateb amlddisgyblaethol a gallu’r defnyddiwr gwasanaeth a neu’r gofalwr i reoli’r angen sydd wedi cael ei adnabod. Mae gan y Tîm Anabledd Dysgu nifer o Arbenigwyr a all gynghori a darparu gwasanaethau sy’n cynnwys:

  • gweithwyr cymdeithasol
  • rheolwr achos iechyd
  • nyrsys cymunedol
  • cydlynydd adolygiad ac adnoddau
  • therapydd galwedigaethol
  • therapydd iaith
  • ffisiotherapydd
  • seicolegydd
  • cynghorwr ar hyfforddiant

Pa wasanaethau sydd ar gael?

Yn ogystal â’r gwasanaethau penodol a ddarperir gan Arbenigwyr o fewn y Tîm gellir rhoi cymorth i bobl gael mynediad at y gwasanaethau canlynol:

  • addysg / hyfforddiant
  • gwaith cefnogol yn y gymuned
  • gweithgareddau galwedigaethol yn ystod y dydd
  • gofal cartref
  • llety cefnogol
  • taliadau uniongyrchol
  • gofal ysbaid
  • eiriolaeth

Mae gan ofalwyr yr hawl i dderbyn gwasanaeth hefyd

Gofalydd yw person sy’n edrych ar ôl perthynas neu ffrind ag anabledd dysgu, ac oherwydd hyn, efallai y byddent angen cymorth.

Bydd y Rheolwr Achos yn cymryd i ystyriaeth anghenion y Gofalydd wrth asesu anghenion y person sydd ag anableddau dysgu. Mae gan y Gofalydd hawl i ofyn am asesiad o’i h/anghenion eu hunan ar wahân.