Skip to content

Cyngor Sir Ynys Môn - Isle of Anglesey County Council

Oedolion mewn perygl


Cadwch eich llygaid a'ch clustiau yn agored yn ystod y pandemig COVID-19. Gwyliwch ein fideo.

Nid yw pob oedolyn yn gallu amddiffyn a gofalu amdano’i hun.

O dan Ran 7 Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, caiff ‘oedolyn mewn perygl’ ei ddiffinio fel rhywun:

(a) sy’n profi camdriniaeth neu esgeulustod neu sydd mewn perygl o hynny
(b) sydd ag anghenion gofal a chymorth (p’un a yw’r awdurdod yn cwrdd ag unrhyw un o’r anghenion hynny ai peidio); a
(c) o ganlyniad i’r anghenion hynny, rhywun nad yw’n medru amddiffyn ei hun rhag y gamdriniaeth neu’r esgeulustod neu’r perygl o gamdriniaeth neu esgeulustod.”

Mae adran 197(1) y Ddeddf yn darparu diffiniadau o “gamdriniaeth” ac “esgeulustod”:

Mae “camdriniaeth” yn golygu camdriniaeth gorfforol, rhywiol, seicolegol, emosiynol neu ariannol (ac mae’n cynnwys camdriniaeth sy’n digwydd mewn unrhyw leoliad, boed hynny mewn tŷ preifat, sefydliad neu unrhyw le arall), ac mae “camdriniaeth ariannol” yn cynnwys:

  • arian neu eiddo arall yn cael ei ddwyn
  • twyll ariannol yn erbyn y person
  • y person yn cael ei roi dan bwysau mewn perthynas ag arian neu eiddo arall
  • arian neu eiddo arall yn cael ei gamddefnyddio

Mae “esgeulustod” yn golygu methiant i gwrdd ag anghenion corfforol, emosiynol, cymdeithasol neu seicolegol sylfaenol y person, a bod hynny wedyn yn debygol o amharu ar lesiant y person (er enghraifft, amhariad ar iechyd person, neu yn achos plentyn, amhariad ar ddatblygiad y plentyn).

Wrth asesu sefyllfa dylid rhoi ystyriaeth i:

  • llesgedd neu fregusrwydd yr oedolyn sydd mewn perygl
  • graddau’r gamdriniaeth neu’r esgeulustod
  • am ba hyd a pha mor aml mae wedi bod yn digwydd
  • yr effaith ar yr unigolyn
  • y risg o ddigwyddiadau ailadroddus neu ddigwyddiadau gwaeth yn cynnwys yr oedolyn hwn neu oedolion eraill mewn perygl

Isod mae rhestr o enghreifftiau i bob categori o gamdriniaeth ac esgeulustod (nid yw’n rhestr gyflawn):

  • camdriniaeth gorfforol – hitio, slapio, gorddefnyddio neu gamddefnyddio meddyginiaeth, atal rhywun yn gorfforol heb fod angen, neu sancsiynau amhriodol
  • camdriniaeth rywiol – trais ac ymosodiadau rhywiol neu weithredoedd rhywiol lle nad yw’r oedolyn bregus wedi cydsynio neu’n methu cydsynio iddynt a/neu lle rhoddwyd pwysau arno/arni i gydsynio
  • camdriniaeth seicolegol – bygwth y bydd y person yn cael ei niweidio neu ei adael ar ôl, rheolaeth gymhellol, codi cywilydd, camdriniaeth lafar neu hiliol, eu cadw draw neu eu tynnu allan o wasanaethau neu rwydweithiau cefnogol (mae rheolaeth gymhellol yn cyfeirio at weithred neu batrwm o weithredoedd o ymosod, bygythiadau, codi cywilydd, codi ofn neu unrhyw gamdriniaeth arall a ddefnyddir i niweidio, cosbi neu ddychryn y dioddefwr)
  • esgeulustod – methiant i sicrhau mynediad at ofal neu wasanaethau meddygol, esgeulus wrth gymryd risgiau, methiant i roi meddyginiaeth sydd ar bresgripsiwn, methiant i gynorthwyo gyda hylendid personol neu i ddarparu bwyd, lloches, dillad; esgeulustod emosiynol
  • camdriniaeth ariannol mewn perthynas â phobl a chanddynt anghenion gofal a chymorth o bosib. Gallai awgrymiadau bod hyn yn digwydd gynnwys:
    • rhywun yn newid ei ewyllys yn annisgwyl
    • gwerthu neu drosglwyddo eu cartref yn sydyn
    • gweithgaredd anarferol mewn cyfrif banc
    • enwau ychwanegol yn cael eu cynnwys yn fwyaf sydyn ar gyfrif banc
    • nid yw’r llofnod yn debyg i lofnod arferol y person
    • y person yn gyndyn o drafod ei faterion ariannol neu’n bryderus iawn wrth wneud hynny
    • rhoi rhodd sylweddol i ofalwr neu drydydd parti
    • diddordeb sydyn gan berthynas neu drydydd parti yn lles y person
    • biliau heb eu talu
    • cwynion bod eiddo personol ar goll
    • ymddangosiad personol yn dirywio sy’n awgrymu bod diet a gofynion personol yn cael eu hanwybyddu
    • cadw draw’n fwriadol o deulu a ffrindiau gan roi rheolaeth lwyr i berson arall dros eu penderfyniadau

Gallai unrhyw rai o’r mathau uchod o gamdriniaeth fod yn seiliedig ar nodweddion personol y dioddefwr. Galla hynny wneud y gamdriniaeth yn drosedd casineb. Mae’r rhain yn cynnwys trosedd sydd yn nhyb y dioddefwr neu unrhyw berson arall, yn seiliedig ar elyniaeth neu ragfarn oherwydd anabledd, hil, crefydd neu gred, neu gyfeiriadedd rhywiol y person neu’r ffaith ei fod yn drawsrywiol (gwirioneddol neu ganfyddedig).

Dyletswydd i adrodd am oedolion mewn perygl

Mae’r Ddeddf yn gosod dyletswydd newydd ar bartneriaid allweddol i adrodd i awdurdod lleol os amheuir bod oedolyn yn oedolyn sydd mewn perygl. Mae’r Ddeddf hefyd yn rhoi dyletswydd ar awdurdod lleol i adrodd wrth awdurdod lleol arall os yw oedolyn yr amheuir sy’n oedolyn mewn perygl yn byw neu’n symud i ardal arall.

O dan Adran 126 (2) o ddeddf SSWB (Cymru), mae'n ddyletswydd ar yr awdurdod lleol i wneud ymholiadau lle mae amheuaeth resymol yn bodoli bod oedolyn neu blentyn 'mewn perygl' o gam-drin neu niweidio p'un a yw'r person yn preswylio fel arfer ai peidio ardal yr awdurdod lleol.

Os rhoddir gwybod i'r Gwasanaethau Cymdeithasol am gamdriniaeth, mae'n ddyletswydd i wneud ymholiadau er mwyn penderfynu gyda'r Heddlu a phartneriaid allweddol eraill a oes angen cynnal ymchwiliad, a fydd yn dilyn Gweithdrefnau Diogelu Cymru 2019 (dolen allanol).

Bydd hyn yn cynnwys cydweithredu ac ymateb amlasiantaethol i ddiogelu’r unigolyn neu’r unigolion yr ystyrir eu bod ‘mewn perygl’.

Sut i adrodd am amheuaeth o gamdriniaeth?

Os ydych chi’n credu eich bod chi neu rywun arall mewn perygl mawr o niwed difrifol cysylltwch â’r heddlu’n ddi-oed drwy ddeialu 999.

I gael y cymorth a’r cyngor mwyaf priodol, cysylltwch â Llinell Gymorth Byw Heb Ofn: 0808 8010 800 (yn ddi-dâl)

Cysylltwch gyda’r Gwasanaethau Cymdeithasol ar unrhyw un o’r rhifau hyn: 

Gwasanaethau Cymdeithasol Plant: 01248 725888

Gwasanaethau Cymdeithasol Oedolion: 01248 752752

Gellir darganfod mwy o wybodaeth ar wefan Comisiynydd Pobl Hŷn yng Nghymru

Os oes angen fersiwn mwy hygyrch arnoch, anfonwch neges at digidol@ynysmon.llyw.cymru er mwyn i ni allu eich helpu.