Skip to content

Cyngor Sir Ynys Môn - Isle of Anglesey County Council

Cynlluniau gofal ychwanegol


Fel rhan o’r Rhaglen Oedolion Hŷn penderfynwyd y byddai tri chynllun gofal ychwanegol arall yn cael eu hadeiladu ar draws Ynys Môn sef un yn Llangefni, un yn Amlwch ac un yn ne’r ynys. Mae un cynllun o’r fath eisoes ar yr ynys yng Nghaergybi o’r enw Penucheldre.

Datblygiad sydd yn cynnig cartrefi am oes i bobl dros 60 sydd eisiau manteisio ar ffordd o fyw annibynnol mewn cymuned ddiogel a chartrefol gyda gwasanaethau gofal a chefnogaeth ar gael ar y safle.

Mae na nifer o ddatblygiadau tebyg wedi cael eu hadeiladu yn barod ar draws Gogledd Cymru gan gynnwys Penucheldre yng Nghaergybi a Cae Garnedd ym Mangor.

Mae Cyngor Sir Ynys Môn wedi cychwyn ar raglen i drawsnewid y modd y mae’n darparu gwasanaethau i bobl hŷn gan roddi blaenoriaeth i’r ffordd orau o ddarparu cyfuniad o lety a gofal.

Pobl dros 60 yn amodol ar feini prawf cymhwyster.

Gwrandewch ar beth sydd gan bobol sydd yn byw mewn Cynllun Gofal Ychwanegol i’w ddweud

Cynlluniau eraill gofal ychwanegol: