Skip to content

Cyngor Sir Ynys Môn - Isle of Anglesey County Council

Cefnogaeth yn yr ysbyty


Darperir gwasanaeth gwaith cymdeithasol yn Ysbyty Gwynedd neu’r Ysbytai Cymunedol ar gyfer pobl sy’n byw yn Ynys Môn.

Mae gennym dîm o Weithwyr Cymdeithasol ac Aseswyr Gofal sydd wedi lleoli yn Ysbyty Gwynedd sydd ar gael i drafod materion personol parthed salwch neu gadael yr ysbyty. Cynigir cefnogaeth, cyngor, a gwybodaeth am ystod o wasanaethau gofal cymdeithasol ganddynt. Gallant hefyd ymgymryd asesiadau ar gyfer gwasanaethau fel:

  • gofal cartref a gwasanaethau cefnogol trigfannol arall yn dilyn cyfnod mewn ysbyty
  • cefnogaeth ail-ymaddasu i roddi cymorth er mwyn gwella yn dilyn rhyddhau o’r ysbyty
  • gofal tymor byr neu hir dymor mewn Cartref Preswyl neu Nyrsio o’ch dewis chwi

Rhyddhau o’r ysbyty

Fe all gadael Ysbyty fod yn brofiad anodd, yn enwedig os nad yw’r person yn gallu ymdopi fel o’r blaen. Fe all hefyd fod yn gyfnod anodd i’r sawl sy’n gofalu. Trwy drefniant ar y cyd mae staff Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn gyfrifol am gynnal asesiad anghenion cleifion sydd yn yr ysbyty er mwyn penderfynu pa wasanaethau gofal a chefnogaeth fydd angen arnynt ar ôl cael eu rhyddhau.

Ble mae anawsterau yn codi o fynediad i neu ryddhau o’r ysbyty dylid cysylltu â Thîm Gwaith Cymdeithasol yr Ysbyty am wybodaeth neu gyngor.

Asesiad anghenion a chynllunio gofal

Gobeithiwn y gallwn eich darparu â digon o wybodaeth a chyngor pan fyddwch yn cysylltu â ni, ond os byddwch yn teimlo eich bod angen trafodaeth bellach am eich sefyllfa ac anghenion gallwch ofyn am asesiad, fydd yn golygu trafod eich sefyllfa bersonol gydag aelod o Dîm Gwaith Cymdeithasol yr Ysbyty i ystyried y cynlluniau mwyaf addas ynghyd â gwasanaethau cefnogol fyddwch angen wrth adael yr ysbyty.

Gyda’ch caniatâd ac fel rhan o’r asesiad, bydd y Gweithiwr Cymdeithasol neu Asesydd Gofal yn gweithio’n agos gyda staff meddygol, nyrsio a therapi er mwyn penderfynu ar y ffyrdd gorau i ddiwallu eich anghenion. Fel rhan o’r broses, byddwn yn cynnal trafodaeth â chwi am y gwasanaethau sydd ar gael i’ch cefnogi yn y gymuned ac os oes angen bydd cynllun gofal yn cael ei gytuno rhwng y gwahanol asiantaethau. Bydd y cynllun gofal yn cynnwys manylion o’r gwasanaeth/au fyddwch angen ar ôl gadael yr ysbyty.

Gall Gofalwyr ofyn am asesiad ar wahân o’u hanghenion os ydynt yn dymuno. Nod yr asesiad yma yw cynorthwyo Gofalwyr i barhau yn y rôl o ofalu ac i dderbyn gwasanaethau cefnogol fydd yn eu galluogi hwy i gael mynediad at gyfleoedd cymdeithasol a hamdden.

Gwasanethau cymdeithasol yn y gymuned

Fe all ffi gael ei godi am rhai gwasanaethau fydd wedi eu cynnwys yn y Cynllun Gofal. Bydd y Gweithiwr Cymdeithasol neu Asesydd Gofal yn esbonio’r polisi codi tâl ac yn eich darparu gyda gwybodaeth parthed gwasanaethau cymunedol a’r tâl a godir am y gwasanaethau hyn.

Gofal tymor byr neu dymor hir mewn cartref preswyl neu nyrsio

Fe all fod yn anymarferol neu anniogel i rai pobl ddychwelyd i’w cartrefi eu hunain yn y gymuned, wrth adael yr ysbyty ac o ganlyniad fe allant fod angen gofal mewn cartref preswyl neu nyrsio o’u dewis hwy yn y sector gyhoeddus neu breifat. Cyfrifoldeb yr unigolyn yw talu am ofal mewn Cartrefi Preifat a Chartrefi’r Cyngor. Fodd bynnag gall rhai pobl fod yn gymwys i dderbyn cymorth ariannol tuag at gost y ffioedd a gellir penderfynu os yw person yn gymwys yn dilyn asesiad ariannol. Fe all Gweithiwr Cymdeithasol esbonio system gyllido ymhellach a’ch darparu â mwy o fanylion. Mae’r tudalennau canlynol yn darparu mwy o wybodaeth a chyngor.