Skip to content

Cyngor Sir Ynys Môn - Isle of Anglesey County Council

Gwasanaeth Ail-Alluogi


Pwrpas y Gwasanaeth Ail-Alluogi yw hyrwyddo annibyniaeth yn dilyn cyfnod o salwch, anabledd neu golli hyder.

Fe all hefyd fod o fydd i’ch cefnogi i barhau i fyw’n ddiogel yn eich cartref eich hunain.

Fe all Ail-Alluogi helpu mewn nifer o ffyrdd, megis

  • Helpu chi ddychwelyd adref trwy ddarparu cefnogaeth yn dilyn cyfnod yn yr ysbyty
  • Atal mynediad diangen i’r ysbyty neu gartref gofal
  • Helpu chi ddychwelyd adref yn dilyn cyfnod mewn cartref gofal
  • Helpu chi i barhau i fyw yn eich cartref eich hun yn y gymuned

Yn dilyn gwybodaeth a gyflwynir i’r Gwasanaethau Cymdeithasol, trefnir ymweliad atoch gan Ymgynghorydd Byw’n Annibynnol, Therapydd Galwedigaethol neu Weithiwr Cymdeithasol er mwyn asesu sut fath o gefnogaeth / cymorth yr ydych o bosib ei angen. Gelwir y bobl yma hefyd yn Aseswyr.

Bydd cyfle i chwi drafod eich anghenion unigol ac os ydych angen cymorth gyda thasgau beunyddiol (e.e. Ymolchi, gwisgo, paratoi bwyd) neu gymorth neu gefnogaeth i adennill sgil benodol.

Gallwch drafod unrhyw gymorth / cefnogaeth yr ydych o bosib eu hangen gyda’r Asesydd ac os cytunir, caiff ei gynnwys yn eich cynllun Cefnogaeth Gofal Personol. Byddwch yn derbyn copi o’r Cynllun Cefnogaeth Gofal ac yna cewch gopi o Gynllun Darparu Gwasanaeth fydd yn cynnwys yr amser o’r dydd a dyddiadau yn ystod yr wythnos pan fydd Gweithiwr Cefnogol Ail-Alluogi yn ymweld â chwi.

Os dymunwch, gallwch ofyn i’ch gofalydd, perthynas, neu ffrind i fod yn bresennol yn ystod yr asesiad.

Byddwn yn trafod y gwasanaethau y byddwch yn eu derbyn o leiaf unwaith yr wythnos. Gelwir hyn yn adolygiad. Bydd yr adolygiad yn cynnig cyfle
i chi ddweud wrthym os yw’r gwasanaeth / cefnogaeth yma o gymorth i chi, neu os ydych yn meddwl y dylid newid y trefniadau. Fodd bynnag, bydd rhaid cytuno ar unrhyw newid gyda’r asesydd.

Cynigir y gwasanaethau canlynol yn dilyn yr asesiad, os cytunir eich bod eu hangen:

  • Cyfarpar a/neu fan addasiadau i’ch eiddo i helpu â thasgau dyddiol
  • Larwm Cymunedol, Gwasanaeth Telefoal Ynys Món
  • Gwasanaethau Teleofal
  • Gwasanaethau Cymunedol e.e. Clybiau Cinio, Cynllun Tro Da, Clybiau
  • Cerdded, Clybiau Cyfrifiaduron , Dysgu Gydol Oes
  • Cefnogaeth barhaus gan y Gwasanaeth Gofal Cartref

Maent yn weithwyr sydd wedi eu hyfforddi’n benodol sydd yn aml yn gweithio o dan gyfarwyddyd gweithwyr proffesiynol megis ffisiotherapyddion a therapyddion galwedigaethol. Byddent yn eich helpu

  • Tasgau gofal personol e.e. ymolchi, gwisgo, symudedd cyffredinol a.y.b.
  • Tasgau domestig e.e. paratoi bwyd a diod, cynllunio trefn y diwrnod
  • siopa, talu biliau a rheoli materion ariannol a.y.b.
  • Mynd o gwmpas e.e. cael mynediad at gludiant cyhoeddus neu
  • gymunedol, a chymryd rhan mewn gweithgareddau cymdeithasol

Darperir Ail-alluogi yn benodol o fewn amgylchfyd cartref y person. Fodd bynnag, mae’na fflatiau pwrpasol ar gyfer ail-alluogi mewn dau o gyfleusterau gofal ychwanegol lleol, ble gallwn gynnig gwasanaethau tymor byr ar gyfer adsefydlu.

Cynigir y gwasanaeth hyd at gyfnod mwyafswm o 6 wythnos.

Bydd yr adolygiad terfynol yn adnabod pa wasanaethau fydd yn parhau (os bydd eu hangen). Gwneir trefniadau wedyn i ddarparu gwasanaethau cefnogol priodol sydd wedi eu cynllunio ar gyfer cyfarfod â’ch anghenion.