Ystyried Symud i Gartref Preswyl neu Nyrsio?
Mae sawl rheswm all arwain at ystyried symud i fyw i Gartref Preswyl neu Nyrsio- un ai dros dro neu yn barhaol.
Beth yw’r gorau i mi?
Mae’r penderfyniad yma yn un pwysig iawn yn eich bywyd.
Gall cymorth gweithiwr cymdeithasol eich helpu i feddwl hyn trwyddo. Bydd sicrhau cymorth i symud i gartref preswyl neu nyrsio yn ddibynnol ar asesiad o’ch anghenion naill ai pan fyddwch yn yr ysbyty neu’n byw gartref yn y gymuned. Er mwyn derbyn asesiad o’ch anghenion, gallwch ofyn trwy staff y ward pan fyddwch yn yr ysbyty neu gallwch gysylltu’n uniongyrchol ag Adran Gwasanaethau Cymdeithasol (dilynwch y linc isod er mwyn cyrraedd ein tudalen gyswllt).
Gofal preswyl - pa ddewisiadau sydd ar gael?
Os ydych yn dewis gadael eich cartref eich hun mae’r dewis o wahanol gartrefi preswyl sydd ar gael yn eang. Bydd gan y gweithiwr cymdeithasol restr o gartrefi a phamffledi addas fydd yn eich helpu i ddewis a hefyd trefnu i chwi ymweld â gwahanol gartrefi er mwyn eich galluogi i ddewis pa gartref fyddai fwyaf addas i gwrdd â’ch anghenion.
Mae’r Arolygiaeth Safonau Gofal Cymru yn gyfrifol am gofrestru ac archwilio cartrefi yn flynyddol ac mae copïau o’u hadroddiadau archwilio ar gael trwy gysylltu gyda:
Arolygaeth Safonau Gofal Cymru,
Swyddfa Rhanbarthol Gogledd Orllewin Cymru,
Adeiladau’r Llywodraeth,
Penrallt,
Caernarfon,
Gwynedd
LL55 1EP
Ffôn: 01286 662300,
Ffacs: 01286 662301
Ebost: CSIW_NW_Wales_Region@Wales.GSI.gov.uk
Gwefan:gweler y tab ‘gwefannau’ uchod
Darparwyr cydnabyddedig
Fe sylwch y cyfeirir at rai Cartrefi fel ‘Darparwyr Cydnabyddedig’. Mae yna berthynas agos gyda’r Awdurdod Lleol a byddant yn derbyn ffioedd uwch na’r arfer i sicrhau eich bod chwi yn derbyn gofal o safon uchel. Wrth gwrs, os ydych yn dewis Cartref nad yw yn ddarparwr cydnabyddedig gellir trefnu hyn, oherwydd bod rhaid i Gartrefi gael eu cofrestru gyda’r Arolygiaeth Safonau Gofal Cymru Os ydych angen gofal nyrsio, fe all Gweithiwr Cymdeithasol drefnu i chwi symud i Gartref Nyrsio yn dilyn asesiad ac ymgynghoriad gyda chynrychiolwyr o’r Bwrdd Iechyd Lleol.
Cyfrifoldeb Y Bwrdd Iechyd Lleol yw talu am yr elfen gofal nyrsio o’r ffi wythnosol ar gyfer pob preswylydd. Gall y gweithiwr cymdeithasol eich cynghori ar sut i fynd ati i sicrhau’r elfen hon o gymorth ariannol tuag at y ffi wythnosol.
Beth sy’n digwydd nesaf?
Nid yw’n syniad da i ildio eich tenantiaeth neu werthu eich ty nes eich bod yn hapus gyda’ch penderfyniad i symud. Bydd rhai cartrefi yn barod i chwi aros yn y cartref am gyfnod byr er mwyn eich helpu i wneud penderfyniad. Bydd eraill yn eich annog i ddod a mân ddodrefn, celfi neu luniau gyda chwi er mwyn gwneud i chwi deimlo’n gartrefol. Mae ambell i gartref yn barod i dderbyn anifeiliaid anwes, ond dylid trafod hyn gyda rheolwr y cartref cyn gwneud eich penderfyniad.
Beth fydd y gost?
Bydd y swm y byddwch yn ei dalu neu gyfrannu tuag at y ffi wythnosol yn dibynnu ar eich incwm a chyfalaf. Fodd bynnag, rhaid i bawb dalu cyfraniad o’u pensiwn er bod pawb sydd mewn Cartref Preswyl neu Gartref Nyrsio yn cadw lwfans personol wythnosol i’w wario fel y dymunant. Mae’r lwfans personol yn cael ei benderfynu a’i newid yn flynyddol gan yr Adran Waith a Phensiynau. Gosodir lleiafswm a mwyafswm ar gyfer lwfans incwm / cyfalaf yn flynyddol gan y Llywodraeth.
Fel canllaw, bydd pobl sydd ag incwm neu gyfalaf o dan y lleiafswm a gymerir i ystyriaeth (£14,750 yn ystod 2005/06) yn cyfrannu o’u pensiwn ac yn gymwys i dderbyn nawdd gan yr Awdurdod Lleol mewn Cartrefi Preswyl a gan yr Awdurdod Lleol a’r Bwrdd Iechyd Lleol os yn symud i Gartref Nyrsio. Bydd rhaid i bobl sydd ag incwm neu gyfalaf rhwng y lleiafswm a’r mwyafswm a gymerir i ystyriaeth (h.y. rhwng £14,750 a £21,000 yn 2005/06) yn ychwanegol i’w pensiwn gwladol gyfrannu yn unol â’r raddfa symudol.
Ni fydd pobl sydd ag incwm neu gyfalaf sy’n uwch na’r mwyafswm a ganiateir (£21,000 yn ystod 2005/06) yn gymwys i dderbyn cefnogaeth ariannol ac felly yn gorfod talu’r ffioedd yn llawn. Os ydych berchen ar eich tŷ eich hun, bydd gwerth cyfalafol y tŷ yn cael ei gymryd i ystyriaeth oni bai bod eich priod neu berthynas sy’n ddibynnol arnoch yn byw yno.
Gwasanaeth cynghori a chefnogaeth - diogelwch i chi
Efallai y byddwch yn teimlo y byddai ein cefnogaeth o fudd i chi er nad ydych yn gymwys i gefnogaeth ariannol ar y dechrau. Gall y Gwasanaethau Cymdeithasol
- gynnal asesiad o’ch anghenion am ofal preswyl neu nyrsio mewn cartref o’ch dewis chwi
- roddi i chwi amrywiaeth o bamffledi a’ch helpu i ddewis Cartref
- eich cynghori ynglyn â ffioedd
- drefnu cysylltiad gyda’r Cartref Gofal o’ch dewis
- gadw mewn cysylltiad â chwi a’ch cynghori ar yr adeg pan amcangyfrifir eich bod yn gymwys i gefnogaeth ariannol. Dylai’r gwasanaeth yma eich helpu i deimlo’n ddiogel yn eich trefniadau
Beth yw’r dewisiadau eraill?
1. Gai’i aros adref?
Efallai mai cymorth yn y cartref fyddai’r opsiwn gorau. Mae sawl gwasanaeth ar gael byddai’n gallu bod o gymorth yn y cartref.
2. Cefnogaeth i Ofalwyr:
Hwyrach eich bod yn derbyn y gefnogaeth ‘rydych angen ond yn poeni bod y gwaith o ofalu amdanoch wedi mynd yn drech na’ch gofalwr / wraig. Mae cymorth i ofalwyr yn flaenoriaeth newydd a phwysig o Ofal yn y Gymuned.
3. Atgyweirio’ch Cartref:
Os ydych yn ystyried mynd i Gartref Preswyl oherwydd eich bod yn ei chael hi’n anodd atgyweirio neu gynnal cyflwr y tŷ, hwyrach bod cymorth ar gael drwy grantiau gan y Cyngor. Ar y llaw arall efallai eich bod yn ystyried bod eich ty presennol yn rhy fawr ac yn ddrud i’w wresogi ac yn teimlo y byddai’n haws cael cartref llai a hwylusach.
4. Llety Gwarchod:
Mae sawl math o lety gwarchod ar gael - rhai gyda Gwasanaeth Warden, a rhai - fel ‘Abbeyfield’ - sy’n darparu prydiau yn ogystal â chysur diogelwch. Bydd gan y Gweithiwr Cymdeithasol fwy o wybodaeth ynglyn â’r gwasanaethau sydd ar gael yn eich ardal.
5. System Larwm Cymunedol Gofal Môn
Gall Gwasanaethau Gofal Môn ddarparu gwasanaethau ateb / brys dros 24 awr fyddai o bosib yn rhoi hyder a sicrwydd i chwi fod cymorth ar gael os byddwch ei angen.
Cwynion a sylwadau
Os oes unrhyw sylwadau neu gŵyn am y gwasanaethau yr ydych yn eu derbyn gan yr Adran Tai a Gwasanaethau Cymdeithasol, dylid yn y lle cyntaf, gael cyngor pellach drwy gysylltu â’r Swyddog Cwynion.
In this section
Cartref preswyl Plas Mona
Mae Plas Mona wedi ei leoli nepell o ganol y pentref, ac mae wedi ei gynllunio'n bwrpasol fel Cartref Preswyl i'r Henoed, gyda'i bensaernïaeth yn rhoi blaenoriaeth i anghenion cymysg y preswylwyr.
Cartref preswyl Brwynog
Cartref preswyl gyda 32 o wlâu yw Brwynog, sydd wedi ei leoli mewn ardal ddistaw ond hwylus ar gyrion tref hanesyddol Amlwch.
Cartref preswyl Plas Penlan
Cartref Preswyl i'n dinasyddion hyn yw Plas Penlan sydd wedi ei leoli yn nhref farchnadol Llangefni ar ynys hardd Môn.
Talu am ofal preswyl / nyrsio
Faint fydd rhaid i mi dalu?
Cartref preswyl Haulfre
Hen blasty yw Haulfre sydd wedi ei leoli ynghanol harddwch Ynys Môn. Rhoddwyd Haulfre i'r Cyngor gan deulu Chadwick gyda'r pwrpas o sefydlu Cartref Preswyl i'n dinasyddion hyn.
Cartref preswyl Garreglwyd, Amlwch
Cartref preswyl un llawr wedi ei adeiladu'n bwrpasol i'n dinasyddion hyn gyda adain arbennig gogyfer anghenion pobl ifanc gyda anabledd corfforol yw Garreglwyd.




