Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
-
Ynglyn â
-
Gwefannau
Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yw’r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru.
Mae’n darparu amrediad llawn o wasanaethau cychwynnol, cymunedol, iechyd meddwl ac ysbyty llym ar gyfer poblogaeth o oddeutu 676,000 o bobl sy’n byw yn chwe sir Gogledd Cymru (Ynys Môn, Gwynedd, Conwy, Sir Ddinbych, Sir y Fflint a Wrecsam) yn ogystal â rhai rhannau o ganolbarth Cymru, Sir Gaer, a Sir Amwythig.
Mae’r Bwrdd Iechyd yn cyflogi oddeutu 18,000 aelod o staff ac mae ganddo gyllideb o oddeutu £1.1 biliwn. Mae’n gyfrifol am weithredu tri ysbyty cyffredinol (Ysbyty Gwynedd ym Mangor, Ysbyty Glan Clwyd ger y Rhyl, ac Ysbyty Maelor Wrecsam) yn ogystal â 22 o ysbytai llym a chymunedol eraill, a rhwydwaith o dros 90 o ganolfannau iechyd, clinigau, canolfannau timau iechyd cymunedol ac unedau iechyd meddwl.
Mae hefyd yn cydlynu gwaith 121 o Feddygfeydd, 104 practis deintyddol, 90 practis offthalmic a 153 o fferyllfeydd ar draws Gogledd Cymru.




