Gwasanaethau'r Cyngor:

Llecyn Agored Gwyrdd Newydd yn Amlwch

Mae llecyn gwyrdd newydd yn cael ei greu gan dîm o wirfoddolwyr brwdfrydig yng nghanol pentref Amlwch ar Ynys Môn.

Mae’r ardal, sydd tu cefn i Stryd Mona a Trehinon wedi gordyfu ac mae Cyngor Sir Ynys Môn, sydd berchen y tir mewn trafodaethau gyda Chyngor Tref Amlwch i drafod y posibilrwydd o osod y tir a’i droi i lecyn gwyrdd newydd a rhywle i fynd am dro.

Mae’r ardal wedi dioddef o dipio anghyfreithlon gyda sbwriel ac asbestos yn cael eu gadael yno. Hefyd roedd coed yn gorhongian yn achosi pryder i breswylwyr Trehinon. “Doeddwn erioed wedi sylweddoli pa mor fawr oedd yr ardal yma hyd nes codwyd y mater gyda’r Cyngor Tref gan rhai o’r preswylwyr. Yn syth, sylweddolom y potensial i greu lle gwyrdd newydd i’r gymuned, hafan i flodau gwyllt, adar a bywyd gwyllt,” meddai Val Roberts, Cynghorydd Tref Amlwch a Chadeirydd Pwyllgor Parciau a Mannau Agored Amlwch.

Cam cyntaf y prosiect yw torri’r coed, clirio’r llwyni a chael gwared â’r sbwriel. “Bydd llwyddiant y prosiect yn dibynnu ar gefnogaeth gan wirfoddolwyr a grwpiau cymunedol. Hoffwn ddiolch iddynt am gychwyniad gwych. Rydw i’n gwybod gallwn greu ardal bydd Amlwch yn falch ohono,” meddai Val.

Mae nifer o grwpiau a gwirfoddolwyr yn cefnogi’r prosiect, gan gynnwys; Prosiect Cymunedau Oed Cyfeillgar, Cynghorwyr Tref Amlwch, Heneiddio’n Dda Ynys Môn, Biffa (Grŵp Verdant gynt), Sgiliau Byw’n Annibynnol Coleg Menai, Gerddi Twt, Hyfforddiant Parys Training Y Porth Ymgysylltu, Hyfforddiant Parys Training Y Grŵp Cynhwysiad, Cydlynydd Prosiect Trefi Taclus Cyngor Sir Ynys Môn, Cadwch Gymru’n Daclus, Heddlu Gogledd Cymru, Prosiect Taith i Waith, Ymddiriedolaeth Prawf Cymru, preswylwyr Trehinon, Ysgol Coed Menai ac Ysgol Gynradd Amlwch. “Mae’n hyfryd gweld gymaint o sefydliadau yn cydweithio ar y prosiect yma, yn enwedig gan ei fod yn dymchwel rhwystrau rhwng gwahanol genedlaethau a gwahanol grwpiau cymdeithasol. Rydw i’n edrych ‘mlaen at gam nesaf y prosiect,” meddai John Pritchard, Swyddog Oed Cyfeillgar Cyngor Sir Ynys Môn.

“Fel cydlynydd prosiect Trefi Taclus Cyngor Sir Ynys Môn, mae hwn yn esiampl wych o gydweithio i wella ardal aflêr sydd wedi gordyfu i rywle all pawb ei fwynhau,” meddai Lois Roberts, Cydlynydd Prosiect Trefi Taclus Cyngor Sir Ynys Môn.

Diwedd

Dogfennau i'w lawrlwytho

Diweddariad diwethaf: 9 Chwef 2012 Rhowch adborth ar y dudalen hon
Llyfrnodwch gyda:
| More |

Beth yw'r rhain?