Skip to content

Cyngor Sir Ynys Môn - Isle of Anglesey County Council

Argyfyngau sifil: cynllun argyfyngau


Isod, gweler cyflwyniad byr i sut mae’r Cyngor yn darparu ar gyfer argyfyngau. Mae hyn yn cynnwys gweithio mewn partneriaeth gyda sawl asiantaeth a sefydliad yn fewnol ac yn allanol

Gwasanaeth Cynllunio at Argyfwng Rhanbarthol sy’n cynnwys y chwe Awdurdod Lleol yng Ngogledd Cymru sydd bellach yn gyfrifol am Gynllunio at Argyfwng yng Nghyngor Sir Ynys Môn. 

Mae’r gwasanaeth yn gweithio o ddau hyb, y naill yng Nghyffordd Llandudno a’r llall yn y Gogledd-Ddwyrain yn Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug.

Mae’r Gwasanaeth Cynllunio at Argyfwng Rhanbarthol yn cynorthwyo Cyngor Sir Ynys Môn i gwrdd â’i ddyletswyddau statudol dan Ddeddf Argyfyngau Sifil Posibl 2004. Gall tywydd garw, damwain ffordd neu ddamwain ddiwydiannol, llygredd dŵr neu derfysgaeth greu argyfwng.

Mae gweithio’n agos gydag asiantaethau ymateb eraill megis y gwasanaethau argyfwng, Cyfoeth Naturiol Crymu, yr Asiantaeth Arforol a Gwylwyr y Glannau ac eraill, yn paratoi Cyngor Sir Ynys Môn fel ei fod mor barod ag y gall fod i ymateb i argyfwng mawr a dod ato’i hun wedyn.

Bydd ymateb cynlluniedig yn lliniaru effeithiau argyfwng ac yn cynorthwyo’r gymuned i ddychwelyd i fywyd normal. Mae gwybodaeth ar wefan y Cyngor yn nodi’r hyn y gallwch chi ei wneud i’ch amddiffyn eich hun mewn digwyddiad neu ddamwain fawr ac yn cynnwys cyngor syml am yr hyn y dylech, a’r hyn na ddylech ei wneud i’ch helpu i baratoi ar gyfer argyfwng heb i hynny ymyrryd heb fod angen, ar eich gweithgareddau o ddydd i ddydd.

Mae’r Ddeddf Argyfyngau Sifil a mesurau cysylltiedig sydd ddim yn rhai deddfwriaethol yn darparu fframwaith sengl ar gyfer amddiffyniad sifil yn y Deyrnas Gyfunol a all gwrdd â sialensau’r unfed ganrif a’r hugain.Mae’r Ddeddf a Rheoliadau cysylltiedig a’r canllawiau statudol ‘Emergency Preparedness’ yn sefydlu set glir o swyddogaethau a chyfrifoldebau ar gyfer y rheini sy’n ymwneud â pharatoi ar gyfer argyfwng ac ymateb iddo ar lefel leol.

Mae Cofrestr Risgiau Cymunedol Gogledd Cymru yn darparu gwybodaeth am yr argyfyngau mwyaf a all godi yn ein rhanbarth. 

Mae hyn yn cynnwys yr effaith ar bobl, eu cartrefi, yr amgylchedd a busnesau lleol. Adolygir y risgiau hyn yn rheolaidd.

Mae’n hanfodol bwysig bod y nifer fawr o sefydliadau sy’n gysylltiedig â pharatoi ar gyfer argyfyngau ac ymateb iddynt yn cydweithio.

Prif gyfrwng cydweithrediad amlasiantaethol ar lefel leol Gogledd Cymru ydi’r Fforwm Cydnerth.  Mae Fforwm Cydnerth Lleol Gogledd Cymru yn seiliedig ar ranbarth yr heddlu lleol ac mae’n dwyn ynghyd yr holl sefydliadau sydd â dyletswydd i gydweithredu dan y Ddeddf Argyfyngau Sifil ynghyd ag eraill a fyddai’n gysylltiedig ag ymateb i argyfwng.

Mae Rheoliadau Deddf Argyfyngau Sifil Posibl yn nodi 3 darn o ddeddfwriaeth sy’n cyn-ddyddio’r Ddeddf hon ac a gyflwynwyd ar wahân ym Mhrydain o dan ddeddfwriaeth sy’n benodol i’r sector a weithredir gan yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch (HSE). Mae’r rhain yn ymwneud â pheryglon damweiniau mawr mewn sefydliadau diwydiannol (Rheoliadau Rheoli Peryglon Damweiniau Mawr (COMAH)), i biblinellau peryglus (Rheoliadau Diogelwch Piblinellau) ac i beryglon ymbelydredd (Ymbelydredd (Paratoi am Argyfwng a Gwybodaeth Gyhoeddus) (REPPIR)).

Mae’r Rheoliadau sector-benodol hyn wedi sefydlu cyfundrefnau cynllunio brys aml-asiantaethol mewn cydweithrediad gyda’r gweithredwyr. Er mwyn osgoi dyblygu, mae’r Rheoliadau Deddf Argyfyngau Sifil yn darparu nad yw’r ddyletswydd i gynnal cynlluniau o dan y Ddeddf yn berthnasol i achosion brys sy’n dod o dan y darnau hyn o ddeddfwriaeth.

I gael gwybodaeth am sut i ddiogelu eich hun mewn achos o ddigwyddiad mawr neu ddamwain, mae taflen wybodaeth wedi ei chynhyrchu gan gyrff cyhoeddus yng Ngogledd Cymru.