Argyfyngau sifil - cynllyn argyfyngau
-
Ynglyn â
-
Cysylltiadau
-
Gwefannau
Mae’r tîm cynllunio argyfwng yn gyfrifol am sicrhau bod cynlluniau a threfniadau argyfwng perthnasol yn eu lle i ddelio gydag argyfwng yn Ynys Môn.
Beth yw cynllunio argyfwng?
Ein nod ydi asesu’r bygythiadau a’r risgiau lleol a chynllunio ar gyfer yr ymateb a’r adferiad petai digwyddiad yn codi. Y nod yn y pen draw ydi lleihau effaith trychineb ar fywyd o ddydd i ddydd yn ein cymunedau a’r amgylchedd a cheisio cael pethau yn ôl fel yr oeddynt.
Sut ydym ni’n gwneud hyn?
Rydym yn gweithio gydag amrediad eang o asiantaethau eraill, paratoi cynlluniau wrth gefn, trefnu hyfforddiant digwyddiadau difrifol ac ymarferion i baratoi ar gyfer argyfyngau, rhag ofn. Beth bynnag fo’r digwyddiad, rôl y cyngor sir bob amser ydi darparu cefnogaeth a gofal i’r gymuned a chael pethau’n ôl fel yr oeddynt cyn gynted â phosib. Mae hyn yn golygu gweithio mewn partneriaeth gydag amryfal asiantaethau a sefydliadau yn fewnol ac yn allanol.
Mae aelodau dynodedig o staff yn cael eu hyfforddi ar y gwahanol agweddau o ddelio gyda digwyddiad argyfyngus yn amrywio o reoli pethau yn lleoliad yr argyfwng drwodd i les ac arferiad.
Deddf Argyfyngau Sifil 2004
Mae’r Ddeddf Argyfyngau Sifil a mesurau cysylltiedig sydd ddim yn rhai deddfwriaethol yn darparu fframwaith sengl ar gyfer amddiffyniad sifil yn y Deyrnas Gyfunol a all gwrdd â sialensau’r unfed ganrif a’r hugain.
Mae’r ddeddf a rheoliadau cysylltiedig a’r canllawiau statudol ‘Emergency Preparedness’ yn sefydlu set glir o swyddogaethau a chyfrifoldebau ar gyfer y rheini sy’n ymwneud â pharatoi ar gyfer argyfwng ac ymateb iddo ar lefel leol.
Cofrestr risg gymunedol
Er mwyn ein cynorthwyo ni i benderfynu lle dylem ni ganolbwyntio ein hymdrechion yn nhermau cynllunio argyfwng, mae’n bwysig ein bod ni’n parhau i asesu’r risgiau posibl. Caiff pwysigrwydd asesu risg ei danlinellu yn y Ddeddf Argyfyngau Sifil 2004.
Rhydd y ddeddf ddyletswydd gyfreithiol ar ymatebwyr categori 1 (mae’r rhain yn cynnwys yr heddlu, gwasanaeth tân, ambiwlans, iechyd, yr Asiantaeth Arforol a Gwylwyr y Glannau ac awdurdodau lleol) i gynnal asesiadau risg a’u cadw mewn cofrestr risgiau cymunedol. Mae modd edrych ar Gofrestr Risgiau Cymunedol Gogledd Cymru ar wefan Fforwm Lleol Cymru Gydnerth y Gogledd.
Fforwm Cydnerth Lleol
Mae’n hanfodol bwysig bod y nifer fawr o sefydliadau sy’n gysylltiedig â pharatoi ar gyfer argyfyngau ac ymateb iddynt yn cydweithio.
Prif gyfrwng cydweithrediad amlasiantaethol ar lefel leol Gogledd Cymru ydi’r fforwm cydnerth. Mae Fforwm Cydnerth Lleol Gogledd Cymru yn seiliedig ar ranbarth yr heddlu lleol ac mae’n dwyn ynghyd yr holl sefydliadau sydd â dyletswydd i gydweithredu dan y Ddeddf Argyfyngau Sifil ynghyd ag eraill a fyddai’n gysylltiedig ag ymateb i argyfwng.




