Budd-daliadau
-
Ynglyn â
-
Gwefannau
Gwnewch gais am fudd-daliadau os ydych heb waith, ar incwm isel, yn magu plant, wedi ymddeol, yn ofalwr, yn sâl neu yn anabl.
Mae’r cyngor yn gyfrifol am ddelio gyda dau fath o fudd-dal - Budd-dal Tai a Budd-dal Treth Cyngor. Bydd unrhyw un ar incwm isel sy’n talu rhent neu dreth cyngor yn gallu gwneud cais am rain gan gynnwys, pensiynwyr, pobl allan o waith neu yn sâl a rhieni sengl. Mae’n bosib byddwch yn medru ceisio hyd yn oed os ydych yn gweithio a bod eich incwm o dan lefel.
Gallwn helpu gyda lwfans dillad ysgol a chinio ysgol am ddim.
Gallwch wneud cais ar linell am Fudd-dal Tai a Budd-dal Treth y Cyngor drwy ddefnyddio ein ffurflen ryngweithiol. Fydd y ffurflen yn eich cynorthwyo a’ch arwain fel ‘rydych yn mynd ymlaen a sicrhau eich bod yn cwblhau’r rhannau sy’n berthnasol i’ch cais yn unig.
Mae’r rheolau ynglyn â budd dal tai a threth cyngor yn gymhleth felly mae’n synhwyrol i gysylltu â ni os ydych mewn penbleth dros unrhyw agwedd o’ch cais neu am y gwasanaeth budd-dal yn gyffredinol.
Mudiadau eraill
Am ragor o wybodaeth a Dolen Gwirio Budd-daliadau sy’n helpu pobl i sicrhau eu bod yn derbyn yr holl fudd-daliadau lles priodol ewch i wefan DirectGov sy’n cynorthwyo pobl i pobl i ddod o hyd i gymorth ariannol yn gyflym a hawdd.
Am gymorth a chefnogaeth os yw eich teulu yn dioddef oherwydd yr economi gwelwch “Support when you need it” -safle we Llywodraeth y Cynulliad.
HM Revenue & Customs
Mae credyd treth a budd-dal plant yn rhan o ddyletswyddau’r HMRC.




