Budd-dal tai a threth cyngor - gordaliadau
-
Ynglyn â
-
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rydym wedi darparu taflen s’yn rhoi eglurhad ynglyn â gordaliadau a dyled.
Gweler y tab dogfennau uchod.
Sut i dalu
Drwy’r post - gyda siec neu archeb post yn daladwy i “Cyngor Sir Ynys Môn”, a’i yrru i’r Adain Budd dal a Refeniw. Gwelwch y tab uchod ar gyfer ein manylion cyswllt.
Peidiwch â gyrru arian parod drwy’r post, os gwelwch yn dda, ni allwn dderbyn cyfrifoldeb os aiff ar goll.
Archeb sefydlog - gallwch drefnu i dalu eich gordal budd-dal tai gyda archeb sefydlog o’ch cyfrif banc neu gymdeithas adeiladu, mae ffurflenni ar gael o’r Adain Gyllid.
Gyda cardiau credyd a debyd - Gallwch dalu mewn person yn swyddfeydd y cyngor, Llangefni neu yn swyddfa rhanbarthol Caergybi, neu wrth ffonio swyddfeydd y cyngor ar 01248 752015 adeg oriau agor rhwng 9.00 - 4.00, Dydd Llun i dydd Gwener.
Gyda ffôn “Touch Tone” - Gallwch gysylltu â’r gwasanaeth drwy ffonio 0300 123 0800 ar unrhyw ffôn “touch-tone” a byddwch yn cael cyfarwyddiadau ar sut i dalu. Cofiwch bydd angen eich cerdyn credyd neu ddebyd ynghyd â chyfeirnod eich cyfrif neu anfoneb. Mae’r gwasanaeth ar gael 24-awr, 7-diwrnod y wythnos. Codir tâl Gradd Cenedlaethol ar y rhif 0300 ar bob galwad yn ddifater os ydynt yn galw o linell ddaearol neu ffôn symudol.
Ni chaiff unrhyw dal(iadau) a wneir ar ôl 4.00 yp ei roi yn erbyn eich cyfrif tan (i fyny) i dri diwrnod gwaith.
Gyda taliadau ar-lein - gallwch wneud eich taliadau ar-lein gan ddefnyddio cerdyn debyd neu gredyd: Visa, Mastercard, Maestro / Switch, Visa Delta, Electron.
Am wybodaeth ar agweddau cyfreithiol talu ar-lein gwelwch Telerau ac amodau taliadau ar lein.
Bydd eich tâl yn cymryd i fyny i 3 diwrnod gwaith i gyrraedd y cyfrif yr ydych yn gwneud tâl iddo. (Mae hyn yn cynnwys amser i wirio manylion eich cerdyn credyd/debyd gyda’r cwmni cerdyn credyd/debyd ac i’r cyngor gael ei hysbysu o’r tâl). Os yw eich tâl yn hwyr ac os yw camau adennill ar fin eu cymryd, dylech dalu gydag arian parod yn swyddfeydd y cyngor.
Os byddwch yn cael trafferth defnyddio unrhyw un o’r dulliau talu hyn cysylltwch gyda ni, os gwelwch yn dda ar 01248 752015 yn ystod oriau agor Swyddfa Llangefni 9am - 4pm neu gyda ebost: arianwyr@ynysmon.gov.uk




