Budd-dal tai a threth cyngor - newid mewn amgylchiadau
Mae rhaid i chi ddweud wrthym ar union am unrhyw newidiadau yn eich amgylchiadau, megis:
Newidiadau mae rhaid i chi ddweud wrthym amdanynt
- Unrhyw un o’ch plant yn gadael ysgol neu’n gadael cartref;
- Unrhyw un yn symud i mewn neu allan o’ch cartref (gan gynnwys lletywyr a ail-denantiau)
- Eich incwm neu incwm unrhyw un sy’n byw gyda chi, gan gynnwys newidiadau mewn Budd-daliadau.
- ‘Rydych chi neu unrhyw un sy’n byw gyda chi yn cychwyn gweithio;
- Newid yng nghyfalaf, cynilion neu fuddsoddiadau chi neu’ch partner;
- ‘Rydych chi neu unrhyw un sy’n byw gyda chi yn dod yn fyfyriwr, mynd ar Gynllun Hyfforddi’r Ifanc, mynd i’r ysbyty neu gartref, mynd i garchar, newid neu gadael swydd;
- Mae eich rhent yn newid;
- Rydych yn symud;
- Rydych chi neu eich partner yn mynd i fod o’ch cartref am fwy na mis;
- Rydych yn derbyn penderfyniad gan y Swyddfa Gartref; neu
- Unrhyw beth ‘rydych wedi dweud wrthym am yn newid.
(nid yw’r rhestr yn drwyadl)
Mae rhaid i chi sicrhau eich bod chi yn gadael i ni wybod am yr holl newidiadau hyn. Peidiwch â dibynnu ar rywun arall i basio’r neges ymlaen.
Os na fyddwch yn dweud wrthyn am y newidiadau hyn efallai byddwch yn colli arian ‘rydych yn deilwng iddo neu dderbyn gormod o fudd-dal.
- Mae’n drosedd i beidio gadael i ni wybod am unrhyw newidiadau sy’n effeithio ar eich budd-dal
- Mae’n bosib i ni gymryd achos llys yn eich erbyn ac os fyddwn wedi talu gormod o fudd-dal i chi, mae’n bosib fydd rhaid i chi ei dalu’n ôl.
Gallwch gysylltu â ni drwy:
Alw yn un o’n swyddfeydd neu ysgrifennu atom: Cyngor Sir Ynys Môn, Swyddfa Refeniw a Budd-daliadau, POBOX 29, Llangefni, Ynys Môin, LL77 7ZF neu Swyddfa Rhanbarthol Caergybi, Cyngor Sir Ynys Môn, Stryd Newry, Caergybi, Ynys Môn, LL65 1HU. (nodwch os gwelwch yn dda mai Swyddfa Ardal yw swyddfa Caergybi, peidiwch ag anfon unrhyw ohebiaeth i’r cyfeiriad hwn)
- Ffonio ar unai 01248 752226 / 752658;
- Ffacsio ar 01248 752233; neu
- Anfon e-bost i budddaliadau@ynysmon.gov.uk




