Cais ar lein budd-dal tai a chyngor
-
Ynglyn â
-
Cysylltiadau
-
Gwefannau
-
Mapiau
Mae’r ffurflen hon wedi ei dylunio i fod yn hawdd i’w chwblhau. Cyn cwblhau’r ffurflen darllenwch y nodiadau’n ofalus os gwelwch yn dda, os oes gennych unrhyw gwestiynau cysylltwch â ni am gyngor.
Gwnewch gais nawr
Gallwch wneud cais ar lein am Fudd-dal Tai a Budd-dal Treth y Cyngor drwy ddefnyddio ein ffurflen ryngweithiol.
Gwelwch ein tudalen gymorth am fwy o wybodaeth ar sut i lenwi’r ffurflen. Fydd y ffurflen yn eich cynorthwyo a’ch arwain fel ‘rydych yn mynd ymlaen a sicrhau eich bod yn cwblhau’r rhannau sy’n berthnasol i’ch cais yn unig. Gofynnir i chi fod yn amyneddgar, mae’r ffurflen yn cymeryd rhai eiliadau i lwytho.
Mae’r ffurflen hon ar gyfer defnydd trigolion Ynys Môn yn unig.
Trigolion Cyngor Sir Ynys Môn, tenantiaid y cyngor, tenantiaid preifat a perchnogion tai.
Os ydych yn byw tu allan i Fôn cysylltwch â’ch cyngor lleol i geisio am fudd-dal tai neu dreth cyngor, oni bai eich bod wedi cael eich lletya gan Gyngor Sir Ynys Môn.
Defnyddiwch y ffurflen hon i hawlio:
Budd-dal Tai - Mae budd-dal Tai i’ch helpu i dalu eich rhent.
Budd-dal Treth y Cyngor- Gall Budd-dal Treth y Cyngor (gan gynnwys Ad-daliad Ail Oedolyn) eich helpu gyda’ch Treth
Cyngor.
Ad-daliad Ail Oedolyn - Ad-daliad Ail Oedolyn yw Budd-dal Treth y Cyngor ar gyfer pobl, a) sydd heb bartner, neu b) mae’r
partner yn cael ei diystyrru ar gyfer pwrpas Treth Cyngor, ond sy’n rhannu cartref gyda rhywun
sy’n:
- 18 neu hyn; ac
- ar incwm isel; a
- ddim yn talu rhent iddynt
Er mwyn gwneud cais rhaid i chi:
Ateb pob cwestiwn perthnasol ar y ffurflen. Wrth i chi lenwi’r ffurflen, bydd y system yn monitro’r manylion ac yn gofyn i chi lenwi dim ond y meysydd hynny sy’n berthnasol i chi.
Manteision defnyddio ffurflenni ar-lein:
- Mae modd cwblhau’r ffurflen oddi ar-lein, heb gysylltu â’r rhyngrwyd
- I sicrhau eich preifatrwydd, bydd pob gwybodaeth ‘rydych yn rhoi ar y ffurflen wedi ei amgryptio
- Nid oes rhaid ei chwblhau i gyd ar unwaith - mae modd arbed y ffurflen ar eich cyfrifiadur a dod yn ôl ati bellach ymlaen
- Fydd y ffurflen yn eich cymorth a’ch arwainfel ‘rydych yn mynd ymlaen a sicrhau eich bod yn cwblhau’r rhannau sy’n berthnasol i’ch cais yn unig
- Mae’r ffurflen ei hunan yn archwilio am wallau ac amlygu unrhyw beth ‘rydych wedi methu
- Mae’r ffurflen yn rhoi rhestr o ba dystiolaeth yn union fydd ei angen i gefnogi’ch cais
- Gynted fyddech wedi cwblhau’r ffurflen, cewch ei hanfon yn syth i ni fel y gallwn gychwyn prosesu eich cais heb oedi.
Unrhyw gwestiynau?
Os nad ydych eisiau cwblhau’r ffurflen ar-lein, mae opsiynau eraill ar gael i chi; cewch gymorth i gwblhau e-ffurflen yn ein swyddfa yn Llangefni neu ar y ffôn. Yn rhai amgylchiadau, er enghraifft os ydych yn oedrannus neu anabl mae modd trefnu ymweliad cartref.
Os oes gennych unrhyw gwestiwn am eich cais Budd-dal Tai neu Dreth Cyngor, cysylltwch â’r adran budd-dal ar 01248 752226/752658, neu drwy e-bostio budd-dal@ynysmon.gov.uk




