Gwasanaethau'r Cyngor:

Hawliau lles a chyngor ariannol

Cyngor cyfrinachol ac am ddim.

Y ddau brif fudiad sy’n cynnig ystod o cymorth a chyngor lles a budd-daliadau yw Canolfan J E O’Toole yng Nghaergybi a Biwro Cyngor Ar Bopeth Ynys Môn.

Canolfan J E O’Toole - Canolfan di-waith Caergybi a’r Cylch

Rydym yn darparu gwasanaeth hawliau lles, yn cynnig cymorth, cyngor, gwybodaeth a chynrychiolaeth…yn hollol rhad ac am ddim ac yn hollol gyfrinachol.

Darperir amrywiaeth o gyfleoedd addysgiadol a hamdden a, fel canolfan galw heibio, rydym yn ffocws cymdeithasol ble gellir cyfarfod, hamddena, darllen y papurau neu siarad dros ddiod boeth.

Mae cyfleusterau’r ganolfan ar gael i’r di-waith, yr anabl, pensiynwyr, gweithwyr rhan amser; rhieni sengl a gweithwyr sydd wedi’i bygwth gyda gormodedd neu ddiswyddiad anheg.

Gweithgareddau

Darperir amrywiaeth eang o gyrsiau a gweithgareddau yn y ganolfan yn ôl y galw a’r nifer o diwtoriaid sydd ar gael. Mae’r wybodaeth ganlynol felly yn ganllaw yn unig, ac argymellir y dylech gysylltu â’r tiwtoriaid / mudiadau a restrir am ragor o wybodaeth. Mae pob cwrs yn rhad ac am ddim i’r di-waith, dim ots am statws cyflogedig eich partneriaid. Penderfynir eich hawl ar y diwrnod cofrestru.

Cyswllt a lleoliad

Am ein manylion cyswllt gweler y tab uchod. Dilynwch yr A55 i mewn i Gaergybi, dewisiwch y ffordd i ganol y dref a throwch i’r chwith ger y cloc, dilynwch y system un ffordd i fyny’r bryn (gan osgoi’r ardal i gerddwyr). Cymerwch yr ail droad ar y chwith o flaen y Britannia Inn. Mae parcio ar gael ar y ddwy ochr. Lleolir y ganolfan ar yr ochr chwith.

Cyngor Ar Bopeth Ynys Môn

Bydd y Ganolfan Cynghori yn cynorthwyo pobl i fynd i’r afael â phroblemau yn benben gyda chyngor, gwybodaeth a chefnogaeth ymarferol. Yn ogystal â gweithio â chleientiaid i ddelio â’u problemau unigol, bydd y Ganolfan Cynghori yn gweithio i newid gwasanaethau a pholisïau sy’n methu.

24 awr y dydd…7 diwrnod y wythnos

Llinell gymorth

Er mwyn cysylltu âg unrhyw un o’r Canolfannau Gynghori gellwch ffonio 08444 77 20 20 ar unrhyw adeg. Bydd swyddog ar gael o 10am tan 4pm, dydd Llun i ddydd Gwener (gwybodaeth ar dâp arunrhyw adeg arall). Mae’r gwasanaeth ar gael yn y Gymraeg, y Saesneg ac ar gyfer y rheini sy’n fyddar.

Gweler hefyd - www.adviceguide.org.uk/wales (yn Saesneg)

Diweddariad diwethaf: 3 Maw 2011 Rhowch adborth ar y dudalen hon
Llyfrnodwch gyda:
| More |

Beth yw'r rhain?