Gwasanaethau'r Cyngor:

Budd-dal - Menter Twyll Cenedlaethol

Mae Cyngor Sir Ynys Môn yn cymryd rhan mewn ymarfer i sicrhau bod arian cyhoeddus yn cael eu gwario’n briodol.

Mae’n ofynnol i’r Cyngor ddiogelu’r arian cyhoeddus a weinyddir ganddo. Gall y Cyngor rannu gwybodaeth a roddir iddo a chyrff eraill sy’n gyfrifol am archwilio neu weinyddi arian cyhoeddus er mwyn atal a chanfod twyll. Ar hyn o bryd mae Archwilydd Cyffredinol Cymru yn gwneud i ni gymryd rhan yn ei fenter atal twill. Ar gyfer y fenter hon, rydym yn darparu manylion am dalwyr y dreth gyngor er mwyn eu cymharu â gwybodaeth a ddarperir gan gyrff cyhoeddus eraill. Bydd y wybodaeth a ddarperir ynglŷn â thalwyr y dreth y cyngor adeg 1 Ebrill 2008 - 31 Mawrth 2009 ac am flynyddoedd i ddod. Bydd hyn yn sicrhau y gwneir y defnydd gorau o arian cyhoeddus.

Ni wnawn roi gwybodaeth amdanoch i unrhyw un arall, na defnyddio gwybodaeth amdanoch i ddiben arall, oni bai fod y gyfraith yn caniatàu i ni wneud hynny. ‘Rydym ni, Cyngor Sir Ynys Môn, yn y rheolwr data i bwrpas y Ddeddf Gwarchod Data. Os ydych eisiau gwybod pa wybodaeth sydd gennym amdanoch, neu sut ‘rydym yn defnyddio’r wybodaeth hynny, gofynnwch i ni os gwelwch yn dda.

Cysylltiadau Defnyddiol

Chyllid a Thollau EM: Ffôn: 0845 3003900
Gwasanaeth Pensiwn: Ffôn: 0800 991234
Cymdeithas Tai gogledd Cymru: 30 Dean Street, Bangor, LL57 1UR
Ffôn: 01248 370227, Ffacs: 01248 370288.

Os ydych yn credu bod rhywun yn twyllo gallwch eu hadrodd ar lein i’r Adran Gwaith a Phensiynau.

Diweddariad diwethaf: 3 Ebr 2011 Rhowch adborth ar y dudalen hon
Llyfrnodwch gyda:
| More |

Beth yw'r rhain?