Skip to content

Cyngor Sir Ynys Môn - Isle of Anglesey County Council

Cyngor safonau masnach


Rydym yn cynnig gwasanaeth cynghori busnes cyfrinachol a diduedd. Mae cyngor ar gael i fasnachwyr wedi eu lleoli ar Ynys Môn ar faterion Safonau Masnach sy’n effeithio ar eu busnes. Gallwch gysylltu â ni trwy ebost, lythyr, ffôn, ffacs neu gallwch wneud apwyntiad am ymweliad personol i’n swyddfeydd.

Cynllun Prynwch efo hyder

Ydych chi’n dymuno i’ch busnes gael ei gymeradwyo gan Safonau Masnach? Ydi eich busnes wedi bod yn rhedeg am 6 mis neu fwy?  I weld y telerau a’r amodau llawn neu i wneud cais i ymuno â Chynllun Prynwch efo Hyder Ynys Môn ewch i buywithconfidence.gov.uk

Bydd raid talu ffi ymgeisio a ffi aelodaeth flynyddol. Cysylltwch â’r Gwasanaeth Safonau Masnach am ragor o fanylion.