Skip to content

Cyngor Sir Ynys Môn - Isle of Anglesey County Council

Galwadau digroeso ar y ffôn


Mae galwadau twyll yn ddull cyffredin a ddefnyddir gan droseddwyr i geisio cael gwybodaeth bersonol ac ariannol pobl.

Gall y galwadau fod yn frawychus iawn a gall y troseddwyr roi llawer o bwysau, ond mae’n bwysig cofio, os nad ydych chi’n gyfforddus â’r alwad, ei bod yn iawn rhoi’r ffôn i lawr.

Mae yna nifer o opsiynau y gallwch edrych arnynt i helpu atal y troseddwyr rhag cysylltu â chi.

Prynu uned atal galwadau

Mae’r rhain yn unedau a all gysylltu â’ch llinell ffôn a rhwystro galwadau sgâm a niwsans.

Mae llawer o ddarparwyr llinellau ffôn bellach yn cynnig opsiynau ar gyfer atal galwadau niwsans sydd am ddim i’w cwsmeriaid. I gael rhagor o wybodaeth am y rhain, cysylltwch â’ch darparwr llinell ffôn neu ewch i’w gwefan.

Cofrestru ar gyfer y Gwasanaeth Dewisiadau Ffôn (TPS). Er nad yw’r TPS yn atal galwadau scam, bydd yn lleihau nifer y galwadau gwerthu a marchnata digroeso a dderbynnir.

Mae’r TPS yn wasanaeth rhag ac am ddim i gael rhagor o wybodaeth ac i gofrestru, ewch i: www.tpsonline.org.uk neu ffon 0345 070 0707.

Ataliwr galwadau trueCall

  • Wedi’i ddylunio arbennig i amddiffyn llinellau ffôn pobl hŷn a bregus.
  • Mae galwyr dibynadwy yn dod yn syth drwodd, ond mae pawb arall yn cael eu rhyng-gipio.
  • Gofynnir i alwyr sydd wedi’u rhyng-gipio gwasgu allwedd neu nodi cod i fynd drwodd.
  • Mewn treialon gan Safonau Masnach rhwystrodd trueCall 95%+ o alwadau diangen.
  • Opsiwn i’w reoli ar-lein (codir tâl blynyddol parhaus ar ôl y flwyddyn gyntaf).

Mae'n costio £109.99 ond gall preswylwyr Ynys Môn gael 20% i ffwrdd gan yn eu gwneud yn £87.99 yn unig.

Ffoniwch 08000 336339 a defnyddiwch côd TX22 i gael gostyngiad o 20%

Ataliwr galwadau CPR

  • Rhwystro galwadau diangen trwy wasgu botwm ar y peiriant – ni fyddant yn dod drwodd eto.
  • Y gallu i rwystro pob galwad gudd (ddim ar gael neu ryngwladol ac ati).
  • Blociwch hyd at 1500 o rifau.
  • Nodwyd bod 5000 o rifau niweidiol eisoes wedi’u rhag-gofrestru yn y peiriant.

Mae'n costio £69.99 ond gall preswylwyr Ynys Môn gael 20% i ffwrdd yn eu gwneud yn £55.99 yn unig.

Defnyddiwch côd TSI am ostyngiad o 20% neu ffoniwch 0800 040 8010 i archebu.

I gael cyngor am sgamiau, ffoniwch Llinell Gymorth Cyngor ar Bopeth i ddefnyddwryr 0808 223 114

I roi gwybod am scamiau cysylltwch ag Action Fraud ar 0300 123 2040