Mae tybaco rhad yn costio mwy nag y byddech yn ei feddwl. Dyma pam…
- mae tybaco anghyfreithlon yn cael ei werthu am bris arian poced, ac yn aml iawn heb unrhyw gyfyngiadau oed ac mae’n hawdd felly i blant gael gafael arno a dod yn gaeth iddo. Mae’n cael ei dargedu’n aml at blant ac ysmygwyr ifanc a fyddai’n ei chael hi’n anodd prynu tybaco trwy fanwerthwyr cyfreithlon
- mae cymunedau’n dioddef pan fo siopau lleol yn cau oherwydd eu bod yn colli busnes
- oherwydd bod tybaco anghyfreithlon mor rhad a’i fod ar gael yn rhwydd ‘does dim anogaeth i bobl roi’r gorau i ysmygu. Yn wir, mae’n eu hannog i ysmygu mwy nag y byddent yn ei wneud pe baent yn talu’r pris llawn amdano
- mae’r masnachu anghyfreithlon mewn tybaco yn cymryd mantais o deuluoedd y mae’n dynn arnynt yn ariannol ac mae cysylltiad rhyngddo hefyd â throsedd. Mae troseddu lefel isel yn ein cymunedau a throseddu cyfundrefnol rhanbarthol, cenedlaethol a rhyngwladol, yn mynd law yn llaw yn aml â chyffuriau ac alcohol, ecsbloetio plant, gwyngalchu arian ac, mewn rhai achosion, terfysgaeth
- mae masnach anghyfreithlon mewn tybaco yn costio o gwmpas £2.2 biliwn i drethdalwyr y DU bob blwyddyn ar ffurf refeniw trethi a gollwyd ac mae hefyd yn niweidiol i fusnes manwerthwyr cyfrifol
- yn ogystal â’r goblygiadau iechyd sy’n gysylltiedig â chynhyrchion tybaco, gwyddys bod cynhwysion is-safonol mewn cynhyrchion tybaco ffug, gan gynnwys lefelau uchel o ddifwynyddion sy’n cynyddu’r risg i iechyd. Er enghraifft, gwelwyd bod sigarennau ffug yn cynnwys hyd at chwe gwaith mwy o blwm, pum gwaith mwy o gadmiwm a thair gwaith mwy o arsenig na sigarennau cyffredin. Cafwyd hyd i faw llygod mawr a llygod bach, pryfed wedi marw, ysgubiadau llawr a llwch hefyd mewn rhai ohonynt
Beth yw tybaco anghyfreithlon?
Mae pob cynnyrch tybaco yn niweidiol. P’un a ydynt yn cael eu prynu’n gyfreithlon gan fanwerthwyr neu’n anghyfreithlon ar y farchnad ddu, mae’r holl gynhyrchion tybaco yn cynnwys dros 4,000 o gemegolion, a gwyddys bod o leiaf 60 ohonynt yn achosi cancr.
Rhai o’r cynhyrchion tybaco anghyfreithlon yw sigarennau, tybaco neu gynnyrch arbenigol (fel beedis/bidis a sheesha/shisha) sydd wedi eu smyglo, eu cludo’n anghyfreithlon, neu sy’n ffug. Gall fod yn anodd dweud y gwahaniaeth rhwng tybaco anghyfreithlon a thybaco cyfreithlon ac felly dyma’r cyfan sydd raid i chi ei wybod - oherwydd os gallwch ei weld gallwch helpu i’w stopio.
Mae tybaco anghyfreithlon yn gallu dod o fewn sawl categori:
- wedi ei smyglo: cynhyrchion dilys sydd wedi dod i mewn i’r wlad yn anghyfreithlon er mwyn osgoi talu treth
- cynhyrchion “Bootleg”: Smyglo cynhyrchion o wledydd treth isel i mewn i’r DG i’w hailwerthu
- cynhyrchion Ffug: Cynhyrchu nwyddau’n anghyfreithlon a’u labelu fel brandiau enwog heb ganiatâd perchennog y nod masnach
- sigarennau rhad: Sigarennau a gynhyrchwyd yn benodol ar gyfer y farchnad anghyfreithlon. Mae’r brandiau yn cynnwys Jin Ling a Raquel a chânt eu gwneud fel arfer y tu allan i’r Undeb Ewropeaidd
Sut i ddod o hyd i ddybaco anghyfreithlon
- pecynnau anarferol - camgymeriadau sillafu, logos neu deip anarferol
- rhybuddion iechyd mewn iaith arall neu ddim rhybuddion iechyd
- dim lluniau ar y rhybuddion iechyd
- prisiau rhatach - llai na £5.00 am becyn o 20
- arogl a blas anarferol
Os ydych yn amau rhywbeth cysylltwch â ni.
AMAU - ACHWYN - ATAL!
Gellwch gysylltu’n ddienw gyda’r Adain Safonau Masnach
Rhif ffon: 01248 750057
Ebost: AchwyniAtal@ynysmon.llyw.cymru