Safonnau masnach
-
Ynglyn â
-
Gwefannau
Prif nod Safonau masnach yw hyrwyddo amgylchedd masnach deg a chyfiawn ac annog arferion busnes da.
Ein nod yw rhoi cyngor a chymorth i drigolion ac ymwelwyr i Fôn yn ddiduedd, proffesiynol a chyfrinachol, sy’n hwylus ac yn rhad ac am ddim yng nghyswllt unrhyw broblem gyda nwyddau.
Pryd y medrwn eich helpu
- byddwn yn rhoi cyngor a gwybodaeth am hawliau defnyddwyr dros y ffôn, ar bapur ac wyneb yn wyneb
- byddwn yn ymweld â defnyddwyr yn eu cartref pan fo’n briodol
- byddwn yn trafod setliad mewn achosion rhwng defnyddwyr a gwerthwyr yn ddiduedd a theg
- byddwn yn canfod unrhyw fasnachu annheg neu anghyfreithlon a throsglwyddo’r cyfryw waith i’r adain orfodaeth ei archwilio
- byddwn yn rhoi gwybod i gwsmeriaid a busnesau am eu hawliau a’u hymrwymiadau dan gyfraith sifil defnyddwyr
Pryd na fedrwn eich helpu
- gallwn eich cynghori a’ch cynorthwyo i baratoi hawliad ond ni allwn gymryd yr achos llys ar ran person
- gallwn roi cyngor lle bo dadlau rhwng masnachwr / masnachwr ond ni allwn ymyryd gyda setliad na’i drafod
- nid ydym mewn sefyllfa i roi barn ar arferion masnachu cwmni penodol onid yw’r wybodaeth honno eisoes yn gyhoeddus
Safonau ein gwasanaeth
- byddwn yn ymateb i’r holl gwynion ysgrifenedig cyn pen 3 diwrnod gwaith
- byddwn yn delio terfynol gydag o leiaf 85% o gwynion cyn pen 2 fis
- byddwn yn rhoi gwybod i achwynwyr am faterion heb eu setlo bob 21 diwrnod
Sefyllfaoedd lle y medrwn eich helpu
- rwyf wedi prynu car gan garej nad yw’n addas i’w yrru ar y ffordd fawr - beth yw fy hawliau?
- mae’r ffenestri gwydr dwbl y cefais eu gosod chwe mis yn ôl yn gollwng dŵr, ond mae’r cwmni a’u gosododd yn gwrthod helpu - beth ddylwn ei wneud?
- mae’r teledu a brynais yn ddiffygiol - ni phrynais warant bryd hynny, a fyddai’n dal yn bosib i mi gael ei drwsio?
- rwyf wastad yn cael ‘nialwch drwy’r post - fedrwch chi ddweud wrthyf pwy fedr roi stop ar hyn?
- ni fedraf gael yr adeiladwr yn ôl i orffen gwaith ar y tŷ - bellach mae’r to yn gollwng oherwydd ei esgeulustod - fedrwn i gael adeiladwr arall i drwsio’r difrod?
Sut i gysylltu â ni
Gellir cysylltu â ni drwy ffôn, ffacs, ebost, mewn llythyr neu yn bersonol.
Yn yr adain yma

Cyngor defnyddwyr a chyfreithiol
Os ydych yn byw yn Ynys Môn neu os oes gennych fusnes ym Môn, ac eisiau gofyn cwestiwn sy’n ymwneud â materion safonau masnach neu os ydych angen gwybodaeth fel defnyddiwr, mae gennych hawl i gael cyngor arbenigol yn rhad ac am ddim gan Adain Safonau Masnach Ynys Môn.




