Gwasanaethau'r Cyngor:

Cyngor defnyddwyr a chyfreithiol

Os ydych yn byw yn Ynys Môn neu os oes gennych fusnes ym Môn, ac eisiau gofyn cwestiwn sy’n ymwneud â materion safonau masnach neu os ydych angen gwybodaeth fel defnyddiwr, mae gennych hawl i gael cyngor arbenigol yn rhad ac am ddim gan Adain Safonau Masnach Ynys Môn.

Ffôn: (01248) 752808

Ebost: cynghoridefnyddwyr@ynysmon.gov.uk

Trwy ysgrifennu at: Adain Safonau Masnach, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni, Ynys Môn, LL77 7TW

Fel arall, os bydd eich ymholiad yn disgyn y tu allan i faes gwaith yr Adain Safonau Masnach, gellwch gael cyngor ar nifer o faterion o’r ffynonellau a restrir isod. Noder os gwelwch yn dda nad yw’r gwasanaethau hyn yn gysylltiedig ag Adain Safonau Masnach Cyngor Sir Ynys Môn ac y gellir codi am rai ohonynt:

Canolfannau Cyngor ar Bopeth (Gwasanaeth am ddim) am gyngor a chymorth ar - Budd-daliadau a Lles, Tai a Digartrefedd, Cyngor ar faterion Dyledion, Cydraddoldeb ac Amrywiaeth ac ati.

Gwasanaeth Cynghori ar Gredyd Defnyddwyr (Gwasanaeth am ddim) am gyngor yn ddienw ar faterion dyled a materion ariannol.

Direct Gov - taflenni ac ynddynt ganllawiau ar nifer o faterion yn ymwneud â defnyddwyr a llythyrau templed.

Direct Gov - llythyrau templed i gwyno wrth siopau a busnesau.

Expert Answers (Gwasanaeth y codir amdano, £10 - £150, lle byddwch yn dewis eich ffi) am gyngor ar unrhyw fater cyfreithiol gan gynnwys anghydfod rhwng cymdogion. Defnyddiwch y ddolen ar yr ochr dde i ofyn cwestiwn ar safle we “Expert Answers”.

Os dewisiwch ddefnyddio unrhyw un o’r gwasanaethau uchod byddwch yn gadael tudalennau Adain Safonau Masnach Cyngor Sir Ynys Môn ac nid ydym yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Cysylltwch â Safonnau Masnach

Cyngor Sir Ynys Môn
Swyddfeydd y Cyngor
Llangefni
Ynys Môn
LL77 7TW
Ffôn: 01248 752840
Ebost:cynghoridefnyddwyr@ynysmon.gov.uk

Diweddariad diwethaf: 7 Rhag 2011 Rhowch adborth ar y dudalen hon
Llyfrnodwch gyda:
| More |

Beth yw'r rhain?