Treth cyngor - bandiau a ffioedd
Mae pob annedd ddomestig (tai, byngalos, fflatiau ac yn y blaen) yn ymddangos yn y rhestrau prisio yng nghyswllt y Dreth Gyngor.
Gosodir pob annedd yn un o’r naw band yn ôl eu gwerth gyfalaf ar y farchnad agored ar 1 Ebrill 2003. Y rhain yw’r bandiau yng Nghymru:
| Bandiau prisio treth cyngor | |
|---|---|
| Band prisio | |
| A | Dim mwy na £44,000 |
| B | Dros £44,000 ond dim mwy na £65,000 |
| C | Dros £65,000 ond dim mwy na £91,000 |
| D | Dros £91,000 ond dim mwy na £123,000 |
| E | Dros £123,000 ond dim mwy na £162,000 |
| F | Dros £162,000 ond dim mwy na £223,000 |
| G | Dros £223,000 ond dim mwy na £324,000 |
| H | Dros £324,000 ond dim mwy na £424,000 |
| I | Dros £424,000 |
Mae eich bil treth yn dangos band eich annedd.
Amcangyfrifir y bydd pob £1 o’r Dreth Gyngor y bydd y Cyngor yn ei chodi ar Fand D yn creu £29,856.38. Bydd y £894.42 a gyfyd y Cyngor (i dy sy’n cyfateb i Fand ‘D’) yn creu incwm o £26,704,143.
At hyn rhaid ychwanegu’r Dreth Gyngor y mae Awdurdod Heddlu Gogledd Cymru wedi penderfynu arni, sef £214.56 (Band D) i gwrdd â’i wariant a bydd hyn yn creu £6,405,985.
Bydd y Dreth Gyngor y penderfynodd pob Cyngor Cymuned yn y Sir arni yn codi £916,702 arall a cheir manylion am y Dreth hon isod, a bydd ar gyfartaledd yn ychwanegu £30.70 at y Dreth Gyngor (Band D).
Mae’n dilyn y bydd y Dreth Gyngor ar gyfartaledd i dy Band D yn y Sir hon am 2012/13 yn:
£894.42 + £214.56 + £30.70 = £1,139.68 ac mae hyn yn rhyw £22 yr wythnos.
Mae hyn yn gynnydd o 4.1% ar y Dreth Gyngor gyfartalog a oedd yn daladwy ar eiddo Band D yn 2011/12. Mae’r cynnydd yn rhan y Cyngor Sir yn 4.5% ac yn rhan yr Awdurdod Heddlu yn 2.5%.
Praeseptau’r Cynghorau Cymuned a Thref
| Cymuned | Praesept 2011/12 £ | Praesept 2012/13 £ | Cyfatebol Band D £ | Y Dreth Cyngor Band D 2012/13 £ |
|---|---|---|---|---|
| Amlwch Biwmares/Beaumaris Caergybi/Holyhead Llangefni Porthaethwy/Menai Bridge Llanddaniel-fab Llanddona Cwm Cadnant Llanfair Pwllgwyngyll Llanfihangel Esceifiog Bodorgan Llangoed Llangristiolus & Cerrigceinwen Llanidan Rhosyr Penmynydd Pentraeth Moelfre Llanbadrig Llanddyfnan Llaneilian Llannerch-y-medd Llaneugrad Llanfair Mathafarn Eithaf Cylch y Garn Mechell Rhos-y-bol Aberffraw Bodedern Bodffordd Trearddur Tref Alaw Llanfachraeth Llanfaelog Llanfaethlu Llanfair-yn-neubwll Y Fali/Valley Bryngwran Rhoscolyn Trewalchmai | 74,889.76 26,685.07 256,713.00 100,254.00 64,865.00 5,600.00 5,150.00 28,500.00 30,500.00 11,550.00 6,800.00 9,109.00 4,000.00 7,650.00 15,927.00 1,600.00 12,500.00 9,873.93 5,835.00 6,879.00 7,108.86 5,127.27 3,000.00 44,910.00 4,500.00 6,700.00 6,000.00 6,000.00 6,000.00 5,000.00 19,242.00 3,700.00 4,074.00 18,800.00 3,250.00 8,000.00 17,000.00 7,000.00 2,500.00 5,500.00 | 93,021.00 26,578.31 266,320.00 102,037.00 65,000.00 5,800.00 5,150.00 28,500.00 33,000.00 13,050.00 7,180.00 9,109.00 4,140.44 7,800.00 15,927.00 2,600.00 12,000.00 10,636.32 9,000.00 6,879.00 7,031.00 5,383.64 3,500.00 43,566.00 4,750.00 7,350.00 6,000.00 6,000.00 5,000.00 5,000.00 21,317.00 3,700.00 4,074.00 19,300.00 4,750.00 8,350.00 21,702.00 8,200.00 2,500.00 5,500.00 | 64.80 25.18 71.08 54.60 47.35 16.01 14.53 25.56 25.48 19.93 16.77 14.76 7.04 19.56 16.79 11.72 22.03 17.50 13.80 14.42 13.00 10.93 19.02 25.39 11.75 13.58 13.21 21.43 12.28 12.18 17.81 14.53 18.50 16.30 17.26 14.84 22.88 24.05 7.23 15.63 | 1,173.78 1,134.16 1,180.06 1,163.58 1,156.33 1,124.99 1,123.51 1,134.54 1,134.46 1,128.91 1,125.75 1,123.74 1,116.02 1,128.54 1,125.77 1,120.70 1,131.01 1,126.48 1,122.78 1,123.40 1,121.98 1,119.91 1,128.00 1,134.37 1,120.73 1,122.56 1,122.19 1,130.41 1,121.26 1,121.16 1,126.79 1,123.51 1,127.48 1,125.28 1,126.24 1,123.82 1,131.86 1,133.03 1,116.21 1,124.6 |
Gweler y dolenni isod er mwyn gweld eich band treth cyngor ac y band prisio i’ch Cymuned a Thref




