Treth cyngor - rhyddhad anabledd
Ydych yn anabl neu yn gofalu am berson anabl ac angen ystafell ychwanegol neu fwy o le yn eich cartref?
Mae’n bosibl y gellwch gael gostyngiad ar eich bil treth cyngor.
Byddai’r gostyngiad hwnnw’n cymryd bod eich cartref wedi’i roi yn y band prisio union dan ei wir fand. Mae gostyngiad ar gael i’r rhai sy’n byw mewn eiddo Band A hefyd.
Os ydych yn meddwl eich bod yn gymwys am eithriad, disgownt, trefniadau trosiannol neu ryddhad anabledd o’r Dreth Gyngor cysylltwch â’r Adran Gyllid.




