Gwasanaethau'r Cyngor:

Treth cyngor - sut a ble i dalu

Sut i dalu eich treth cyngor

Trwy’r post 

Rhaid cyfeirio pob gohebiaeth a thaliadau drwy’r post i’r:

Cyfarwyddwr Corfforaethol (Cyllid)
Swyddfa Refeniw a Budd Daliadau
Blwch Post 29
Llangefni
LL77 7ZF

Nodwch y cyfeirnod os gwelwch yn dda wrth anfon y taliadau neu wrth ymholi. Sieciau yn daladwy i “Cyngor Sir Ynys Môn” os gwelwch yn dda.

Debyd uniongyrchol

Os yw hyn yn wir gall talu trwy DDEBYD UNIONGYRCHOL fod yn hwylus gan mai dyma’r modd fwyaf syml a diogel i chwi dalu Bil y cyngor a dyma pam:

  • Mae’r rheolaeth yn aros gyda chwi
  • Cewch sicrwydd arian yn ôl
  • Fe’i telir yn fisol ond dim ond un ffurflen sydd rhaid i chwi ei arwyddo ac fe fydd eich Banc neu Gymdeithas Adeiladu yn gwneud y gweddill
  • Cewch anghofio sieciau, stampiau ac aros mewn ciw
  • Mae yn llawer mwy diogel na thalu ag arian parod
  • Mae’r dull hefyd yn llai costus ac yn fwy syml i’r cyngor ei weinyddu sydd felly yn mynd i fod yn
    fuddiol i bawb yn y gymuned.

Os oes gennych unrhyw ymholiad, mae gennych amser i archwilio rhywbeth nad ydych yn ei ddeall neu yn cytuno ag ef, ac o dan reolau y Gwarant Debyd Uniongyrchol fe delir yn ôl i’ch cyfrif unrhyw daliad a wnaethpwyd, oedd yn torri termau y cyfarwyddyd.

Sut mae newid i Ddebyd Uniongyrchol?

Yn syml iawn drwy gwblhau a dychwelyd y cyfarwyddyd debyd uniongyrchol sydd ar gael i’w lawrlwytho fel ffurflen pdf. Gweler y tab dogfennau ar dop y dudalen os gwelwch yn dda.

Mewn person

Wrth swyddfeydd y cyngor yn Llangefni neu yn ein swyddfa talu rhanbarthol yng Nghaergybi.

Am wybodaeth ar oriau agor a sut i gyrraedd ein swyddfeydd talu, dilynwch y ddolen, “Ble mae ein swyddfeydd talu?”

Mewn unrhyw Swyddfa Bost

I dalu drwy’r swyddfa bost, byddwch angen cerdyn sweep a dylech gysylltu a’r swyddfa gyllid yn Llangefni.

Gyda Cardiau credyd a debyd

Gallwch dalu mewn person yn swyddfeydd y cyngor, Llangefni neu yn swyddfa rhanbarthol Caergybi, neu wrth ffonio swyddfeydd y cyngor yn Llangefni ar 01248 752015 adeg oriau agor  rhwng 9.00 - 4.00, Dydd Llun i dydd Gwener. neu yn Swyddfa Dalu Caergybi ar 01407 769734.

Gyda ffôn “Touch Tone”

Gallwch gysylltu â’r gwasanaeth drwy ffonio 0300 123 0800 ar unrhyw ffôn “touch-tone” a byddwch yn cael cyfarwyddiadau ar sut i dalu. Cofiwch bydd angen eich cerdyn credyd neu ddebyd ynghyd â chyfeirnod eich cyfrif neu anfoneb.

Bydd y gwasanaeth ar gael 24-awr, 7-diwrnod y wythnos. Codir tâl Gradd Cenedlaethol ar y rhif 0300 ar bob galwad yn ddifater os ydynt yn galw o linell ddaearol neu ffôn symudol.

Ni chaiff unrhyw dal(iadau) a wneir ar ôl 4.00 yp ei roi yn erbyn eich cyfrif  tan (i fyny i) 3 diwrnod gwaith..

Noder: Ceir rhai eithriadau. Ni fydd y system yn derbyn taliadau am Rhenti Tai ble mae’r rhif rhent yn cynnwys llythrennau alffa rhifol.

Gyda taliadau ar-lein

Gallwch wneud eich taliadau ar-lein gan ddefnyddio cerdyn debyd neu gredyd: Visa, Mastercard, Maestro / Switch, Visa Delta, Electron.

Am wybodaeth ar agweddau cyfreithiol talu ar-lein gwelwch Telerau ac amodau taliadau ar lein.

Bydd eich tâl yn cymryd i fyny i 3 diwrnod gwaith i gyrraedd y cyfrif yr ydych yn gwneud tâl iddo. (Mae hyn yn cynnwys amser i wirio manylion eich cerdyn credyd/debyd gyda’r cwmni cerdyn credyd/debyd ac i’r cyngor gael ei hysbysu o’r tâl). Os yw eich tâl yn hwyr ac os yw camau adennill ar fin eu cymryd, dylech dalu gydag arian parod yn swyddfeydd y cyngor.

Os byddwch yn cael trafferth defnyddio unrhyw un o’r dulliau talu hyn cysylltwch gyda ni, os gwelwch yn dda ar 01248 752015 yn ystod oriau agor Swyddfa Llangefni  9am - 4pm

Neu gyda ebost: arianwyr@ynysmon.gov.uk

Mae’n bwysig bod eich rhandaliadau yn cael eu talu ar neu cyn y dyddiad priodol a ddangosir ar eich bil. Dim ond derbynebau swyddogol a dderbynir fel tystiolaeth o dalu gydag arian.

Diweddariad diwethaf: 21 Chwef 2011 Rhowch adborth ar y dudalen hon
Llyfrnodwch gyda:
| More |

Beth yw'r rhain?