Oes angen rheoliadau adeiladu arnaf?
Mae’n ofynnol yn ôl y gyfraith i unrhyw un sydd am wneud gwaith adeiladu sy’n ddarostyngedig i’r Rheoliadau Adeiladu sicrhau ei fod yn cydymffurfio â’r rheoliadau.
Os ydych chi am:
- adeiladu adeilad newydd neu ymestyn neu newid un presennol
- ddarparu gosodiadau megis draeniau neu offer sy’n cynhyrchu gwres
- ddarparu cyfleusterau ymolchi a iechydol neu storfa dwr poeth
- osod gwydr dwbl newydd
Mae’n bosib bydd Rheoliadau Adeiladu’n berthnasol. Mae’n bosib byddant hefyd yn berthnasol i newidiadau defnydd penodol adeilad presennol, neu os yw eich gwaith yn effeithio ar eiddo gerllaw. Cysylltwch â ni cyn gwneud unrhyw waith adeiladu, fel y gallwn benderfynu os yw’r Rheoliadau’n berthnasol.
Mae’r prif gyfrifoldeb dros gydymffurfio â’r rheoliadau yn eiddo i’r sawl sy’n gwneud y gwaith adeiladu. Os ydych yn gwneud y gwaith eich hun, felly, eich cyfrifoldeb chi fydd gwneud hyn.
Os ydych yn cyflogi adeiladydd bydd y cyfrifoldeb fel arfer yn eiddo i’r cwmni hwnnw - ond dylech gadarnhau hyn ar y cychwyn cyntaf. Os mai chi yw perchennog yr adeilad, dylech ddal mewn cof hefyd mai i chi yn y pen draw y gellid cyflwyno gorchymyn gorfodi, os nad yw’r gwaith yn cydymffurfio â’r rheoliadau. Mae’n bwysig eich bod yn dewis eich adeiladydd yn ofalus, felly.




