Polisi Preifatrwydd a Cwcis
Mae eich hawl i breifatrwydd yn bwysig iawn i ni ac rydym yn cydnabod eich bod yn ymddiried ynom i weithredu mewn ffordd gyfrifol, pan fyddwch yn dewis rhoi gwybodaeth amdanoch i ni.
Mae Cyngor Sir Ynys Môn wedi’i gofrestru gyda Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth. Bydd yr holl ddata a gyflwynir gan ymwelwyr i’r wefan hon yn cael ei brosesu yn unol ag egwyddorion Deddf Gwarchod Data 1998. Bydd gwybodaeth a gesglir gan Gyngor Sir Ynys Môn yn cael ei chadw a’i phrosesu mewn cronfeydd data dan berchnogaeth Cyngor Sir Ynys Môn yn unig.
Cesglir gwybodaeth bersonol gan Gyngor Sir Ynys Môn gan ymwelwyr i’r safle hon. Mae’r wybodaeth hon yn cael ei ddefnyddio ar gyfer ymateb i ymholiadau ac i fonitro defnydd o’r safle. Ni fydd yr ystadegau hyn yn cynnwys gwybodaeth fydd yn cael ei ddefnyddio i adnabod unigolion. Mae gwybodaeth o’r fath yn hollol anhysbys ac yn cael ei gadw dros dro. Wrth ddanfon eich gwybodaeth rydych yn cytuno i’r wybodaeth gael ei ddefnyddio yn y ffurf a ddisgrifir uchod. Ble mae data personol yn cael ei geisio drwy lenwi ffurflen ar linell, bydd y data yn cael ei ddefnyddio ar gyfer y pwrpas a eglurir yn y ffurflen.
Cwcis
Mae’r cwcis rydym yn eu defnyddio yn rhoi gwybodaeth i ni am ymddygiad defnyddwyr ar ein gwefan - pa rannau sydd o ddiddordeb iddynt a pha wasanaethau sy’n cael eu defnyddio amlaf, ayyb. Ni chedwir gwybodaeth sensitif megis rhifau ffôn neu gyfeiriadau e-bost yn y cwcis yma.
Rydym hefyd yn defnyddio cwcis sy’n diflannu neu gwcis ‘sesiwn’ i gofio pa iaith y dylai ei ddangos.
Nid yw’r cwcis sesiwn a ddefnyddir ar y safle hwn yn cynnwys unrhyw wybodaeth bersonol amdanoch chi ac maent yn cael eu dileu oddi ar eich cyfrifiadur pan fyddwch chi’n cau’r porwr gwe. Gwnewch yn siŵr eich bod yn caniatáu cwcis sesiwn ar gyfer y safle hwn, fel bod eich dewis iaith yn ymddangos yn iawn
Mae’r rhan fwyaf o borwyr wedi eu rhagosod i dderbyn cwcis. Os ydych yn anghyfforddus, mae’n bosib y gallwch sicrhau bod eich porwr yn gwrthod cwcis neu, yn rhoi gwybod i chi pan fydd cwci yn cael ei anfon i’ch cyfrifiadur, yna gallwch ddewis derbyn y cwci ai peidio.
Mae Microsoft IE9 a fersiwn diweddaraf Mozilla Firefox yn barod yn cynniog ffordd o amddiffyn defnyddiwyr o wasanaethau sy’n casglu gwyboadeth porwr ac mae Google yn gweithio i integreiddio technoleg “Do Not Track’ i’w porwr Chrome.
Cysylltiadau allanol
Gallai ein gwefannau ddarparu cysylltiadau i wefannau eraill. Gan nad ydym yn rheoli’r gwefannau hyn, rydym yn eich annog i arolygu polisïau preifatrwydd y gwefannau hyn.




