Rheoli pla: gwylanod
-
Ynglyn â
-
Cysylltiadau
-
Gwefannau
Yn ystod yr ugeinfed ganrif, mae nifer y gwylanod cefnddu mawr a bach a gwylanod penwaig wedi cynyddu’n ddramatig yn y Deyrnas Gyfunol.
Ar yr un pryd, maen nhw wedi symud i mewn i’r tir yn arbennig felly yn ystod y gaeaf pryd ychwanegir yn helaeth at ein poblogaethau cynhenid gan adar sy’n mewnfudo o wledydd tramor a mannau eraill.
Adar amlwg o faint canolig neu fawr gydag adennydd hirion ydy gwylanod sydd yn aml yn ymhel gyda’i gilydd mewn heidiau cymdeithasol mawr. Maent o liw gwyn yn bennaf gyda chefn ac adennydd llwyd neu ddu ond mae gan adar ifanc smotiau brown a dim ond yn raddol maen nhw’n cael plu o’r un lliw â’r oedolion. Mae gwylanod yn hedfan gyda churiadau adennydd araf ac o bryd i’w gilydd, maen nhw’n gleidio ac yn esgyn ar adennydd sydd ddim yn symud o gwbl. Mae pum math o wylan i’w gweld yn gyffredin yn y Deyrnas Gyfunol : Y Wylan Benddu, Y Wylan Lwyd, Gwylan Penwaig, Y Wylan Gefnddu Fach a’r Wylan Gefnddu Fawr.
Dosbarthiad a chynefin
Mewn ardaloedd mewndirol, ac yn arbennig felly yn ystod y tymor paru, mae gwylanod yn aml yn clwydo yn eu miloedd ar ddyfroedd megis cronfeydd dðr a phyllau gro sydd dan ddðr. Mae’r gwylanod i gyd, pan ar y tir, yn dibynnu i raddau helaeth ar wastraff domestig am fwyd, er bod y Wylan Benddu a’r Wylan Lwyd yn bwydo ar dir amaethyddol hefyd. Dros yr ugain mlynedd ddiwethaf mae’r Wylan Penwaig, ac mewn rhai achosion, y Wylan Gefnddu Fach, wedi dechrau nythu ar adeiladau mewn trefi ar yr arfordir ac, yn fwy diweddar, ymhellach i mewn i’r tir. Mae adeiladau a effeithir yn cynnwys tai preifat, gwestyau a warysau mawr.
Nythu
Caiff yr wyau eu dodwy ym mis Ebrill neu Mai (yn dibynnu ar rywogaeth y wylan) gyda hyd at 3 o wyau yn cael eu dodwy o fewn 2 - 3 diwrnod. Mae’n cymryd oddeutu 28-30 diwrnod i wyau’r Wylan Penwaig ddeor. Gall yr adar ifanc hedfan yn 10 diwrnod oed ond nid ydynt yn gadael y nyth tan eu bod 5-6 wythnos oed. Fel arfer, un nythaid o gywion yn unig a geir.
Difrod a niwsans wedi’i achosi gan wylanod
Mae cwynion, yn arbennig felly ynghylch Gwylanod Penwaig, ar gynnydd a’r ffaith eu bod yn nythu ar doeau sy’n peri’r problemau mwyaf. Gallant ddifrodi ffabrig adeiladau drwy bigo deunydd toi sy’n achosi tamprwydd a hefyd drwy flocio gwteri gyda deunydd nythu a baw
Mae gwylanod yn creu difrod hefyd drwy faeddu adeiladau a dillad sy’n sychu ar leiniau a gallant hefyd ddifrodi planhigion mewn gerddi. Gall gwylanod gyda chywion ymosod ar bobl hyd yn oed. Mae niwsans sðn, sydd ddim wedi ei gyfyngu i’r tymor bridio, hefyd wrth wraidd nifer o gwynion.
Dulliau rheoli i berchnogion tai
Bwydo
Yr arfer o roddi allan darnau mawr o fwyd i adar ydy’r prif reswm pam fo gwylanod yn crwydro. Ni ddylid annog hyn oherwydd mae hefyd yn denu ac yn cynnal llygod.
Ymgynghorwyd gyda’r Gymdeithas Frenhinol Er Diogelu Adar (Swyddfa Cymru) sy’n cynnig y cyngor isod i’r rheiny sy’n dymuno bwydo’r adar mewn ardaloedd trefol ond sydd ddim ar yr un pryd eisiau denu gwylanod:
- nid oes raid bwydo adar rhwng Mai a Hydref oherwydd mae digon o fwyd naturiol ar gael bob amser bron
- os ydych chi’n dymuno bwydo adar yn yr haf, dylech naill ai ei roddi mewn basged weiren neu ar fwrdd adar dan do fel mai’r adar bach yn unig yn hytrach na’r adar mawr sy’n medru cael ato
- os ydych chi’n dymuno taflu bwyd i’r ardd i’r adar, yna dylech ei falu’n friwsion neu’n ddarnau bach fel bod yr adar bach yn hytrach na’r rhai mawr yn ei fwyta
- dylid rhoi ychydig o fwyd allan yn aml yn hytrach na phentwr ar un adeg
Diogelu adeiladau
Gellir diogelu adeiladau unigol gyda weiren wedi ei thynnu’n dynn ar hyd y to neu gyda phigau miniog ar hyd cribau a siliau’r to ac ar botiau simnai ac ati. Fodd bynnag, rhaid i’r rhain fod yn ddigon hir i sicrhau nad ydynt yn cael eu gorchuddio gan ddeunydd nythu.
Symud wyau
Cyfeiriwch at Deddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad - Trwydded Gyffredinol, wrth ddilyn y ddolen i wefan Llywodraeth Cynulliad Cymru.
Cwmnïau rheoli pla proffesiynol
Mae’n bosib y gall cwmnïau rheoli pla proffesiynol ddefnyddio’r dulliau rheoli isod:
- trapiau
- dulliau gwaredu a dychryn
- saethu
- abwyd llesgau
Efallai fod angen caniatâd penodol i ymgymryd a’r gweithgareddau hyn. Cyfeiriwch at Deddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad – Trwydded Gyffredinol. Gweler y tab “gwefannau” uchod.




