Gwasanaethau'r Cyngor:

Sut mae apelio yn erbyn penderfyniad derbyniad - cynradd ac uwchraddn

Os byddwch fel rhieni yn penderfynu apelio yn erbyn penderfyniad yr awdurdod derbyn i wrthod mynediad i’r ysgol o’ch dewis bydd yn ofynnol i’r apêl gael ei gyflwyno i’r Swyddfa Addysg o fewn 15 diwrnod gwaith o dderbyn yr hysbysiad fod eich cais am fynediad wedi ei wrthod.

Gwrandewir ar bob apel gan Banelau Apêl annibynnol. Os yw’r panel yn dyfarnu o’ch plaid fel rhiant, rhwymir yr awdurdod derbyn gan y dyfarniad. Bydd y Panel Apêl yn cyfarfod o fewn 5 wythnos o dderbyn gwybodaeth fod rhiant yn penderfynu apelio a cheir dyfarniad y Panel o fewn 5 diwrnod gwaith o’r gwrandawiad. Y Panel Apêl fydd yn ystyried apeliadau gan rieni yn erbyn penderfyniad Awdurdod mynediad boed hwnnw yr Awdurdod neu gorff llywodraethu.

Os ydych fel rhiant, ar ôl i’ch apêl gael ei chlywed, yn credu bod y panel wedi gweithredu yn amhriodol neu’n afresymol wrth ymdrin â’r achos, gallwch wneud cwyn i’r comisiynydd dros Weinyddu Lleol (sef yr Ombwdsman Llywodraeth Leol) neu geisio adolygiad barnwrol. Nid oes gan y Cynulliad Cenedlaethol unrhyw bwer i ystyried cwynion yn erbyn penderfyniadau panelau apêl annibynnol.

Diweddariad diwethaf: 19 Mai 2009 Rhowch adborth ar y dudalen hon
Llyfrnodwch gyda:
| More |

Beth yw'r rhain?