Cyngor gyrfaol
-
Ynglyn â
-
Gwefannau
Ydych chi’n chwilio am yrfa newydd neu eisiau gweithio unwaith eto? Cysylltwch â’r Cwmni Gyrfa
Y Cwmni Gyrfa
Mae’r Cwmni Gyrfa yn darparu cyfarwyddyd gyrfaoedd di duedd i unigolion i’w helpu i gynllunio eu dyfodol, boed iddynt fod yn yr ysgol, mewn addysg bellach, mewn gwaith, dan hyfforddiant neu yn chwilio am waith. Mae cyngor ar gael i helpu unigolion i asesu eu haddasrwydd i wahanol yrfaoedd, ac i wneud penderyniadau am eu dewis o bynciau cyrsiau, gwaith a hyfforddiant. Gall pobl ifanc sydd yn chwilio am waith a hyfforddiant hefyd fanteisio o ddefnyddio gwasanaeth cyflwyno y Cwmni Gyrfa.
Gall y Cwmni Gyrfa roi gwybodaeth a chyngor am:
- gyrsiau mewn colegau addysg bellach ac uwch a cholegau prifysgolion.
- cyflogwyr lleol a chenedlaethol, yn cynnwys manylion am swyddi, cyfleoedd hyfforddiant a thueddiadau cyflogaeth.
- amrywiaeth eang o yrfaoedd, yn cynnwys y cymwysterau a’r sgiliau anghenrheidiol, dulliau mynediad a llwybrau dilyniant.
Mae help arbenigol ar gael i bobl ifanc gyda anghenian addysgol neu anghenion hyfforddiant arbennig. Mae Swyddogion Gyrfoaedd yn cydweithio’n agos gydag athrawon, ac yn arbennig gyda’r Cyd Gysylltydd Gyrfaoedd i ddarparu Addysg a Chyfarwyddyd Gyrfaoedd. Mae’nt hefyd mewn cysylltiad agos a cholegau, cyflogwyr a darparwyr hyfforddiant.
Gall pobl ifanc a’u rhieni drefnu apwyntiad gyda Swyddog Gyrfaoedd un ai yn yr ysgal neu y Swyddfa Gyrfaoedd leol.
Mae Gyrfa Cymru Gogledd Orllewin yn cynnig gwasanaeth cyfleoedd i bobl ifanc rhwng 16 ac 19 oed sydd yn chwilio am waith neu hyfforddiant. Ceisiwn ddod o hyd i swydd addas neu gyfle hyfforddi trwy gyfateb yr hyn a ddymunwch gyda chyfleoedd ar gronfa ddata ein cyfrifiadur.
Prif Swyddfa
5 Llys Castan, Parc Menai, Bangor, Gwynedd LL57 4FH
Rhif ffôn prif swyddfa: 01248 672800.
Ffacs: 01248 672801
Rhif rhadffon: 0800 100 900
Ebost: post@careers-gyrfa.org.uk
Canolfan Gyrfaoedd Centre
Cyfeiriad: Llys Gwynedd, Ffordd Gwynedd, Bangor. LL57 1DT.
Ffôn: (01248) 364 682
Canolfan Gyrfaoedd Caergybi
Cyfeiriad: Stryd y Farchnad, Caergybi. LL65 1UF
Ffôn: (01407) 762 177

Gyrfaoedd mewn cynllunio
Ni fu erioed well amser i ystyried cynllunio fel gyrfa.
Gyrfa yn iechyd yr amgylchedd
Wedi meddwl erioed am fod yn Swyddog Iechyd yr Amgylchedd (SIA)?




