Skip to content

Cyngor Sir Ynys Môn - Isle of Anglesey County Council

Cynllun Hyfforddi a Datblygu 2024 i 2025


Sut rydym ni'n gwneud yr hyn rydym ni'n ei wneud

Ein Gweithlu a sut rydym ni'n cefnogi eu rolau proffesiynol

Mae Tîm Dysgu a Datblygu (D&D) yr Awdurdod yn cefnogi cyfleoedd Hyfforddi a Datblygu ar gyfer y Sector Corfforaethol (y Cyngor) yn ogystal â'r Sector Gofal Cymdeithasol sydd yn cynnwys grwpiau Partneriaeth. 

Fel rhan o'r rôl o gefnogi y Sector Gofal Cymdeithasol mae'r Tîm yn gweinyddu Grant Partneriaeth Datblygu Gofal Cymdeithasol Cymru (PDGCC) er mwyn darparu cyfleoedd Hyfforddi a Datblygu ar gyfer Gweithlu Gofal Cymdeithasol yr Awdurdod yn ogystal â'r Bartneriaeth Gofal Cymdeithasol ehangach yn Ynys Môn. 

Mae aelodaeth o’r Bartneriaeth PDGCC yn cynnwys yr Awdurdod Lleol, y Sector Annibynnol a Gwirfoddol, darparwyr Gofal Cymdeithasol (Gofal Cartref a Phreswyl) a phartneriaid sy'n cydweithio i gynorthwyo'r sector i ddatblygu gweithlu sydd â'r sgiliau a'r cymwysterau priodol i gwrdd â gofynion Gofal Cymdeithasol Cymru. Cynigir hyfforddiant hefyd i ofalwyr di-dâl (perthnasau neu ffrindiau sy'n gofalu am bobl gartref) a chynorthwywyr personol (sector taliadau  uniongyrchol). 
Y meysydd blaenoriaeth allweddol a gefnogir yw'r rheini a nodir yng Nghylchlythyr Blynyddol Gofal Cymdeithasol Cymru.

Yn ystod y flwyddyn efallai y bydd angen diwygio'r cynllun o ganlyniad i newidiadau i ddeddfwriaeth, polisïau neu flaenoriaethau gwasanaeth, felly o bryd i'w gilydd byddwn yn cyhoeddi gwybodaeth newydd ac ychwanegol yn ymwneud â chyrsiau heblaw y rhai a nodir yn y llyfryn hwn. 
Fel Tîm, rydym yn awyddus i glywed gennych am unrhyw anghenion hyfforddi a datblygu ychwanegol a allai fod gennych ac i gael sylwadau am y ddarpariaeth. Byddem yn croesawu'r cyfle i drafod y rhain gyda chi. Nodir manylion cyswllt ar dudalen 3. 

Sut i gysylltu â ni

Tîm Dysgu a Datblygu 
Uned Adnoddau Dynol Pencadlys,
Swyddfeydd y Cyngor,
Llangefni
LL77 7TW 

Ffôniwch 01248 750057 neu e-bostiwch Gweithlugofal@ynysmon.llyw.cymru 

Cynllun hyfforddi a datblygu

Yn dilyn y casgliad llwyddiannus o anghenion hyfforddiant gan y Gwasanaethau Oedolion, Plant, ac Iechyd Meddwl, Uned Darparwyr, Gofalwyr Maeth a’n Sefydliadau Partner, mae’r Tîm Dysgu a Datblygu wedi creu'r Cynllun Hyfforddi a Datblygu canlynol ar gyfer 2024 i 2025.

Bydd taflenni yn cynnwys gwybodaeth fanwl am y cyrsiau fel; dyddiadau, amseroedd, nodau, amcanion a lleoliad, yn cael eu rhannu gyda’r gynulleidfa darged unwaith y cytunir ar y trefniadau a’i rhoi ar waith.

Gallwch weld manylion a gwybodaeth am ddigwyddiadau sydd yn dod i fyny drwy’r wefan ganlynol:    

Digwyddiadau hyfforddi

Manylion Cyswllt

Elen Pritchard

Rheolwr Hyfforddiant Adnoddau Dynol  01248 752512 ElenPritchard@ynysmon.llyw.cymru
Maria Jones Cydlynydd Dysgu Ymarfer 01248 752935 Mariajones@ynysmon.llyw.cymru
Linette Gwilym Swyddog Hyfforddiant Gwaith Cymdeithasol   LinetteGwilym@ynysmon.llyw.cymru
Laura Jones Swyddog Hyfforddiant 01248 752505 Laurajones@ynysmon.llyw.cymru
Teressa Backhouse Swyddog Hyfforddiant Cynorthwyol 01248 751939  TeressaBackhouse2@ynysmon.llyw.cymru
Helen Hughes  Swyddog Cefnogi Busnes AD (Hyfforddiant) 01248 752986  Helenhughes@ynysmon.llyw.cymru

Yn dilyn y casgliad llwyddiannus o anghenion hyfforddiant gan y Gwasanaethau Oedolion, Plant, ac Iechyd Meddwl, Uned Darparwyr, Gofalwyr Maeth a’n Sefydliadau Partner, mae’r Tîm Dysgu a Datblygu wedi creu'r Cynllun Hyfforddi a Datblygu canlynol ar gyfer 2024/2025.
Bydd gwybodaeth manwl am y cyrsiau fel; dyddiadau, amseroedd, nodau, amcanion a lleoliad, yn cael eu rhannu gyda’r gynulleidfa darged unwaith y cytunir ar y trefniadau a’i rhoi ar waith.

Gallwch weld manylion a gwybodaeth am ddigwyddiadau yn fan yma.

Os hoffech drafod unrhyw anghenion hyfforddi ychwanegol sydd gennych chi neu'ch sefydliad, cysylltwch â'r tîm (gweler manylion cyswllt ar dudalen 3 or ddogfen yma).

Os oes gennych ddiddordeb mynychu hyfforddiant sydd heb ei gynnwys yn y cynllun presennol anfonwch e-bost atom.

  • Diogelu - Grŵp B
  • Diogelu - Grŵp C
  • Amddiffyn Plant
  • Trefniadau Diogelu rhag Colli Rhyddid (DoLS)
  • Deddf Galluedd Meddyliol
  • ATAL• Gofyn a Gweithredu
  • Profiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod
  • Llinellau Cyffuriau
  • Rheolaeth drwy Orfodaeth
  • Caethwasiaeth Fodern
  • Cam-fanteisio’n Rhywiol ar Blant
  • Anffurfio Organau Cenhedlu Merched
  • Glendid Bwyd
  • Diogelwch Tân
  • Marsial Tân
  • Iechyd a Diogelwch
  • Symud a Thrin, Pasbort A-F
  • Cymorth Cyntaf
  • Cymorth Cyntaf Pediatrig
  • Meddyginiaeth
  • Asesu Risg
  • Diogelwch Personol
  • Atal Haint
  • Gweithio ar ben eich hun
  • Cofnodi ac Adrodd
  • Cefnogaeth Ymddygiad Cadarnhaol
  • Parch – RESPECT
  • Gwaith Stori Bywyd
  • Plant mewn Gofal
  • Ymwybyddiaeth o Gyffuriau ac Alcohol

  • Gweithio gyda Phobl Ifanc sy'n Ceisio Lloches ar eu Pen eu Hunain
  • Gweithio gyda Throseddwyr Cam-drin Domestig
  • AIMS – Ymddygiad Rhywiol Niweidiol
  • Ymchwiliad Adran 47, Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014

  • Sicrhau’r Dystiolaeth Orau
  • Adroddiadau Llys a Thribiwnlysoedd
  • Sgiliau Llys
  • Ymwybyddiaeth Diwylliannol
  • Cyflwyniad i Awtistiaeth a Syndrom Asperger 
  • Goruchwyliaeth
  • Makaton
  • Ymwybyddiaeth Epilepsi
  • Ymwybyddiaeth Clefyd Siwgr
  • Delio â Sefyllfaoedd Heriol
  • Cysylltiadau a Gwytnwch
  • Datblygiad Plentyn
  • Cyfathrebu Cydweithredol
  • Trawma a Cholled
  • Therapi Chwarae
  • Mwy na Geiriau 

* Yn ogystal a cyfwerth y cyrsiau nodir o dan plant a phobl ifanc:

  • Anhwylder Diffyg Canolbwyntio a Gorfywiogrwydd (ADHD) 
  •  Dyslecsia
  • Ymwybyddiaeth o Gyffuriau ac Alcohol
  • Casglu
  • Technegau Tawelu
  • Ymwybyddiaeth Hunanladdiad
  • Ffiniau Personol a Phroffesiynol
  • Gofal Iechyd Parhaus (CHC)
  • Deddf Galluedd Meddyliol
  • Galar a Cholled 

* Yn ogystal a’r cyrsiau perthnasol nodir o dan oedolion:

  •   Colled Synhwyrau
  • Ymwybyddiaeth Strôc
  • Gofal Diwedd Oes
  • Cefnogaeth Actif
  • Atal Cwympiadau
  • Clefyd Parkinson’s
  • Gofal Stoma a Cathetr
  • Gofal Personol
  • Rheoli Dolur Pwysau
  • Gwerth ac Urddas
  • Gofal y Geg
  • Dementia *Cysylltwch am fwy o wybodaeth
  • Cofnodi
  • Gofal mwy Diogel a Rheoli Honiadau
  • Diogelu – Gofalwyr Maeth
  • Gweithio gyda Theuluoedd Biolegol (Cyswllt)
  • Camdriniaeth Domestig 
  • Datblygiad Plant
  • Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl
  • Byw â Phobl Ifanc yn eu Harddegau
  • Cymorth Cyntaf Pediatrig
  • Mwy na Geiriau 
  • Iechyd Meddwl ar gyfer staff
  • Iechyd Meddwl ar gyfer Rheolwyr
  • Ymwybyddiaeth Pryder
  • Cymorth Cyntaf Iechyd Meddw
  • Gwytnwch  
  • Sesiynau cymorth Modiwlau Mandadol
  • Troseddau Seibr
  • Galluoedd Digidol mewn Gofal Cymdeithasol
  • Diogelwch Rhyngrwyd
  • Diogelwch Seibr 

* Bydd lefel y cymhwyster y gallwch ymgymryd ag ef yn dibynnu ar eich swydd. Siaradwch â'ch rheolwr llinell yn y lle cyntaf.

  • Iechyd a Gofal Cymdeithasol

    Lefel 2 a 3

  • Iechyd a Gofal Cymdeithasol Plant a Phobl Ifanc Lefel 3
  • Ymarfer Proffesiynol mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol Lefel 4
  • Paratoi am Arwain a Rheoli mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol

    Lefel 4

  •  Arwain a Rheoli mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol Lefel 5

* Mae mynediad i'r cymwysterau yma yn gyfyngedig, bydd pob cais yn cael ei adolygu a'i gymeradwyo yn unol ag anghenion y gwasanaeth. Siaradwch â'ch rheolwr llinell i gychwyn.

  • TystAU Ymarfer Gofal Cymdeithasol (K102 / KZW123)
  • Rhaglen Gadarnhau ar gyfer Gweithwyr Cymdeithasol Newydd Gymhwyso
  • AMHP (Gweithiwr Iechyd Meddwl Proffesiynol a gymeradwywyd ymlaen llaw
  • AMHP (Ymarferydd Iechyd Meddwl wedi’i gymeradwyo)
  • TMDP (Rhaglen Datblygiad Rheolwr Tîm)
  •  MMDP (Rhaglen Datblygiad Rheolwr Canol)
  • Dyfarniad Addysgu Ymarfer
  • Aseswr Budd Gorau
Os oes angen fersiwn mwy hygyrch arnoch, anfonwch neges at digidol@ynysmon.llyw.cymru er mwyn i ni allu eich helpu.
Logo