Gwasanaethau'r Cyngor:

Cartrefi gwag

Gadewch i ni eich helpu fel y gellir ailddefnyddio’r eiddo

Empty house

Cost cadw eiddo’n wag

Hyd yn oed heb gynnwys costau dibrisiant a fandaliaeth, mae un amcangyfrif swyddogol yn awgrymu bod cartref gwag yn gost aruthrol i’r perchennog - £135 yr wythnos neu £7,020 y flwyddyn.

Yn ogystal â cholli’r incwm rhent, bydd angen i chi yswirio’r eiddo (os oes yswiriant ar gael) a thalu’r Dreth Cyngor yn llawn arno (ar ôl i’r eiddo fod yn wag am 6 mis).

Troi eich eiddo gwag yn gartref

Mae eiddo gwag yn newyddion drwg i bawb.

Gall cyflwr eiddo gwag ddirywio’n sydyn a denu ymddygiad gwrthgymdeithasol - fel pobl yn gadael gwastraff yn anghyfreithlon, sgwatwyr, fandaliaid, pobl yn cymryd cyffuriau a phobl yn llosgi eiddo’n fwriadol. Mae cymdogion yn gynyddol bryderus am droseddau, a gall adeiladau hyll sydd wedi eu bordio i fyny fod yn ddolur llygad ac arwain at ostyngiad o hyd at 18% yng ngwerth y cartrefi sydd o’u cwmpas.

Mae’n bryder

Efallai eich bod yn methu cysgu am eich bod yn poeni y bydd rhywun yn torri i mewn heno.

Mae pobl angen cartrefi

Gellir troi’r eiddo’n gartref diogel i rywun sydd ei wir angen.

Os yw eich eiddo wedi bod yn wag am fwy na 6 mis, byddem yn hoffi gweithio gyda chi fel y gellir ei ailddefnyddio.

Cysylltwch gyda’r Swyddog tai Gwag heddiw am drafodaeth gychwynnol ac i gael cyngor am ddim a chymorth.

Ffoniwch: 01248 752283 a gofynnwch am y Swyddog Tai Gwag

neu anfonwch ebost: swyddogtaigwag@ynysmon.gov.uk

Dogfennau i'w lawrlwytho

Diweddariad diwethaf: 23 Ion 2012 Rhowch adborth ar y dudalen hon
Llyfrnodwch gyda:
| More |

Beth yw'r rhain?