Eiddo gwag - cyn gosod eich cartref gwag
Gyda pwy ydych angen ymgynghori?

Sut bynnag y byddwch yn dewis gosod eich cartref gwag, efallai y bydd angen i chi ymgynghori ac/neu gael caniatad gan bobl eraill fel:
- eich benthyciwr morgais
- eich rhydd-ddeiliad (os ydych yn dymuno gosod fflat ar brydles)
- Adran Cynllunio Cyngor Sir Ynys Môn - efallai y bydd angen caniatad cynllunio ffurfiol ar gyfer newidiadau strwythurol i eidddo neu ar gyfer newid yn y ffordd y mae’n cael ei ddefnyddio.
- Mae Tim Tai Sector Breifat Cyngor Sir Ynys Môn yn sicrhau bod tai rhent yn cydymffrurfio gyda gofynion Deddfau tai a deddfwriaeth berthnasol, ac maent yn rhoi cyngor ynghylch unrhyw waith y bydd angen ei wneud i sicrhau cydymffurfiaeth. Mae hyn yn arbennig o bwysig ar gyfer Tai Amlbreswyliaeth.
- Adran y Dreth Cyngor
- Eich cwmni ysiwrant eiddo
- Eich Swyddfa Dreth neu eich cyfrifydd.




