Eiddo gwag - eich opsiynau
Gall Swyddog Tai Gwag gynnig cyngor i chi am y gwahanol opsiynau sydd ar gael

Ei werthu
Gall gwerthu eich eiddo gwag fod yn broffidiol iawn.
Gwerthwyr tai a thir
Mae’r rhan fwyaf o bobl sy’n dymuno prynu cartref yn cychwyn trwy wneud ymholiadau gyda chwmniau gwerthu tai ar y stryd fawr. Nid oes raid i chi werthu os ydych yn cael prisiad at gyfer eich eiddo, ac argymhellir eich bod yn cael tri phrisiad er mwyn cael barn gytbwys.
Arwerthiant
Mae arwerthiannau yn ffordd sysdyn o werthu; mae dros 25,000 o eiddo yn cael eu gwerthu bob blwyddyn mewn arwerthiannau yn y DU
Am mwy o wybodaeth ewch i www.rics.org/propertyauctions
Ei wella
Gall benthycwyr ar y stryd fawr roi benthyciadau i chi wella eich eiddo fel bod modd ei ailddefnyddio. Gall hyn fod yn anodd os nad oes gennych ddigon o ecwiti fel sicrwydd ar gyfer y benthyciad neu os oes genych statws credyd gwael. fallia y byddai modd i ni eich helpu trwy eich cyfeirio at fenthycwyr cydymdeimladol.
Efallai y gallwn eich helpu i ddod o hyd i ffynonellau grant neu fenthyciad a all fod ar gael i chi.
Morgeisi
Gall morgeisi ar gyfer atgyweirio eiddo gwag fod yn anodd i’w cael. Y broblen ydi nad yw eiddo adfeiliedig yn werth llawer hyd nes y bydd wedi ei adnewyddu.
Os ydych yn dymuno cael benthyg arain i brynu ac atgyweirio eiddo, byddwch yn gofyn am fwy na’i werth os yw mewn cyflwr gwael.
Ei osod
Trwy osod eich eiddo, byddwch yn dechrau ennill arian arno yn hytrach na cholli arain.
Byddai modd i chio benodi asiant gosod i ddod o hyd i denant ac i addrparu agwsanaeth rhewoli. Fel arfer, mae canran o’r rhent yn cael ei godi fel ffi osod gychwynnol. Mae asiantaethau llety a chanddynt enw dfa wedi eu cofrestru gyda un o’r isod.
Fe allech gael tenant ar gyfer yr eiddo a bod yn landlord. Mae’r Llawlyfr Landlordiaid, a gynhyrchir gan ANUK a LACORS yn amhrisiadwy ar gyfer landlordiaid, a gellir ei law lwytho am ddim.
Gwneud dim
O gofio cost gadael eiddo’n wag nid yw hyn yn opsiwn o gwbl.




