Eiddo gwag - trefnu gwaith adeiladu
Beth yw eich opsiynau?

Cyllideb
Gwnewch yn siwr bod gennych gyllideb ddigonol cyn cychwyn unrhyw waith atgyweirio ar gartref gwag. Mae’r Asiantaeth Cartrefi Gweigion yn awgrymu y dylech sicrhau bod gennych 10% ychwanegol wrth gefn yn eich cyllideb, ac os yw’r eiddo wedi mynd â’i ben iddo, dylai’r ffigwr hwn fod yn agosach i 25%.
Ysiwrant
Gall gwaith adeiladu gael effaith ar eich ysiwrant cartref a’ch ysiwrant cynnwys- cysylltwch a’ch cwmni ysiwrant eich hun.
Cyfyngiadau Cyfreithiol
Mae’n wych cael cynlluniau creadigol ar gyfer ailddatblygu cartref gwag, ond os na fedrwch gael caniatad cynllunio rheoliadau adeiladu bydd angen i chi feddwl eto. Siaradwch gyda’n Hadran Gynllunio cyn gynted ag y bo modd fel nad ydych yn gwastraffu amser ac arian.
Dewis eich adeiladwr
Gall gwaith adeiladu fod yn ddrud ac yn boen meddwl. Mae’n bwysig felly eich bod yn dewis yr adeiladwyr gorau i weithio i chi. eddwl. Mae yna nifer o wefannau y gellwch edrych arnynt i gael cyngor ynghylch dewis adeiladwr.




