Skip to content

Cyngor Sir Ynys Môn - Isle of Anglesey County Council

Grant Adnewyddu Tai Gwag i Brynwyr Tro Cyntaf


Amcan y Cynllun hwn gan Gyngor Sir Ynys Môn yw cefnogi prynwyr tro cyntaf i ddod yn berchennog cartref sy’n fforddiadwy iddynt, ac i ddod â thŷ sydd wedi bod yn wag am gyfnod hir ac sydd angen ei wella yn ôl i ddefnydd.

Mae’r math hwn o gymorth yn ddewisol ac mae’n ddibynnol ar yr arian sydd ar gael.

Nodwch os gwelwch yn dda nad yw cynnig o grant wedi’i warantu hyd nes y cewch gymeradwyaeth ffurfiol gan y Cyngor.

Dylai darpar ymgeiswyr gysylltu â’r Cyngor yn y lle cyntaf, cyn prynu’r eiddo, a dylent dderbyn pecyn cais grant cyn cwblhau’r pryniant.

Rhaid cyflwyno ceisiadau o fewn 6 wythnos i ddyddiad prynu’r eiddo.

Eiddo cymwys

Dylai eiddo cymwys fod:

  • yn wag am o leiaf chwe mis cyn ei brynu, yn ôl cofnodion y Cyngor. (Gallwch gysylltu â’r Swyddog Tai Gwag i wirio hyn.)
  • ar werth ar y farchnad agored neu os bydd y gwerthiant yn breifat, bydd yn ofynnol i'r prynwyr dderbyn prisiad annibynnol gan brisiwr cofrestredig â RICS. Dylai'r prisiad hwn nodi gwerth presennol yr eiddo ar y farchnad agored er mwyn sicrhau ei fod wedi'i brynu ar werth y farchnad
  • angen ei adnewyddu er mwyn ei wneud yn gynnes, yn saff ac yn ddiogel
  • rhaid i’r eiddo fod ym Mand Treth y Cyngor A i D
  • ni chaniateir talu blaendal o fwy na 25% o’r pris prynu 

Meini prawf cymhwyso ar gyfer ymgeiswyr

Rhaid i ymgeiswyr fod yn brynwyr am y tro cyntaf erioed

(Prynwr/prynwyr am y tro cyntaf erioed yw pobl nad ydynt erioed wedi bod yn berchen ar eiddo yn y gorffennol, ar eu pen eu hunain neu fel cwpwl.)

Rhaid i ymgeiswyr fod â chysylltiad lleol

Mae cysylltiad lleol yn golygu bod yr ymgeisydd, neu o leiaf un o’r ymgeiswyr wedi:

  • byw neu weithio ar Ynys Môn am gyfnod parhaus o bum mlynedd neu fwy yn union cyn cyflwyno’r cais, neu
  • wedi byw ar Ynys Môn am gyfnod parhaus o bum mlynedd neu fwy rhywbryd yn y gorffennol

Bydd ceisiadau/ymgeiswyr yn cael eu hasesu’n ariannol i sicrhau bod ganddynt angen am dŷ fforddiadwy.

(Mae’r broses lawn, gan gynnwys y wybodaeth y bydd ei hangen arnoch i ymgeisio, ynghyd â’r meini prawf cymhwyso, i’w gweld yn Atodiad A ar y tudalen yma). 

Gwaith cymwys

Bydd y Cyngor yn cynnal archwiliad o’r eiddo a rhaid cytuno ar waith cymwys cyn y gellir cyflwyno cais.

Gall unrhyw waith a wneir cyn i’r cartref gael ei asesu gan y Cyngor i benderfynu ar y gwaith sy’n gymwys i dderbyn grant, eich datgymhwyso rhag gwneud cais a bydd rhaid i chi dalu am unrhyw waith a wneir cyn i’ch cais gael ei gymeradwyo.

Gellir ystyried mân waith ail-gyflunio mewnol er mwyn cwrdd â safonau byw modern, yn amodol ar gyflwyno cais am ganiatâd rheoli adeiladu.

Amodau grant sylfaenol

  • Rhaid i ymgeiswyr fyw yn yr eiddo am o leiaf 5 mlynedd ar ôl cwblhau’r gwaith.
  • Bydd y grant yn cael ei ddiogelu fel pridiant tir lleol gyda’r Gofrestrfa Tir yn erbyn yr eiddo  am gyfnod o bum mlynedd o ddyddiad cwblhau’r gwaith a bydd rhaid ad-dalu’r grant, yn llawn, os nad yw’r ymgeisydd yn byw yn yr eiddo a/neu ei fod yn gwerthu’r eiddo cyn i’r cyfnod o bum mlynedd ddod i ben.
  • Y grant mwyaf sydd ar gael yw £25,000 ond bydd swm y grant a ddyfernir yn dibynnu ar lefel y gwaith sydd angen ei wneud.
  • Os nad yw’r grant yn ddigon i dalu am gost lawn y gwaith, bydd angen i’r ymgeisydd ddarparu tystiolaeth i ddangos bod ganddynt ddigon o arian i dalu gweddill y gost.
  • Bydd y grant yn cael ei dalu ar ôl cwblhau’r gwaith os yw’r swm dan £10,000 ac mewn dau neu fwy o gamau os yw’r grant yn fwy na £10,000, yn unol â’r cytundeb a wneir gyda’r Cyngor.
  • Unrhyw eiddo sydd i'w ymestyn fel rhan o'r broses adnewyddu, ni fyddent yn gymwys ar gyfer unrhyw gymorth grant.

Unrhyw ymholiadau sy’n ymwneud â’r cynllun cysylltwch a:

Swyddog Tai Gwag
Gwasanaethau Tai
Cyngor Sir Ynys Môn
Llangefni
Ynys Môn
LL77 7TW

Ffôn: 01248 752301 neu 07971 156155 

swyddogtaigwag@ynysmon.gov.uk  

Os oes angen fersiwn mwy hygyrch arnoch, anfonwch neges at digidol@ynysmon.llyw.cymru er mwyn i ni allu eich helpu.