Skip to content

Cyngor Sir Ynys Môn - Isle of Anglesey County Council

Eich troi allan o'ch cartref


Sut medr landlord droi tenant allan o’i gartref yn gyfreithlon?

Fel arfer, os ydych yn rhentio ty, fflat neu ystafell, bydd rhaid i’ch landlord roi rhybudd ysgrifenedig dilys i chi. Byddai landlord fel arfer yn rhoi rhybudd i chi oherwydd y canlynol:

  • Ymddygiad Gwrthgymdeithasol
  • Dyledion rhent
  • Y landlord eisiau gwerthu’r eiddo

Bydd y rhybudd hwn yn amrywio gan ddibynnu ar eich tenantiaeth ond fel arfer, cewch 2 fis o rybudd. Yna, rhaid i’ch landlord gael Gorchymyn meddiant gan y Llys Sirol cyn i chi adael. Efallai y bydd modd i chi amddiffyn y camau hyn yn y llys fel y gellwch aros yn eich cartref. Gellwch ofyn i sefydliadau megis Shelter neu CAB am gymorth o’r fath.

Os oes gennych unrhyw amheuon ynglyn â’ch hawliau yn eich llety, neu os ydych wedi derbyn rhybudd ysgrifenedig neu lafar i adael ac yn dymuno siecio a yw’r rhybudd yn gywir, gellwch gysylltu gyda Thîm Opsiynau Tai’r Cyngor ar 01248 750057.

Beth yw troi person allan o’i gartref yn anghyfreithlon?

Mae hyn yn digwydd pan fydd eich landlord neu unrhyw berson arall, yn eich gorfodi, neu’n ceisio eich gorfodi, i adael eich llety heb ddilyn y drefn gyfreithlon gywir.

Mae’n bosib eich bod wedi cael eich troi allan o’ch cartref yn anghyfreithlon os:

  • Bydd eich landlord yn newid y cloeon tra ‘rydych allan neu’n eich rhwystro rhag cael i mewn i’ch cartref
  • Bydd eich landlord yn gwneud bywyd mor annifyr i chi fel eich bod yn cael eich gorfodi i adael eich cartref
  • Byddwch yn cael eich tynnu’n gorfforol o’r eiddo gan berson nad yw’n feili a gyflogwyd gan y llys sirol

Beth medraf ei wneud ynghylch cael fy nhroi allan o fy nghartref yn anghyfreithlon?

Mae troi person allan o’i gartref yn drosedd sifil a throseddol ddifrifol. Efallai y bydd modd i’r llysoedd orfodi eich landlord i’ch gadael yn ôl i mewn i’ch cartref. Gall y llysoedd ddirwyo a rhoi iawndal mewn achosion eithafol.

Os cewch eich troi allan o’ch cartref yn anghyfreithlon, efallai y bydd modd i chi:

  • cysylltu gyda Thîm Opsiynau Tai’r Cyngor am gymorth i negodi gyda’ch landlord
  • gorfodi ailfynediad (ar yr amod ei bod hi’n saff ac yn gyfreithlon gwneud hynny)
  • cael gwaharddeb gan y llys sirol yn caniatáu i chi ddychwelyd i’ch cartref
  • hawlio iawndal am y colledion yr ydych wedi eu cael

Negodi gyda’ch landlord

Os yw eich landlord wedi eich troi allan o’ch cartref yn anghyfreithlon neu’n ceisio gwneud hynny, yna dylech roi gwybod iddynt (ar bapur os oes rhaid), bod hyn yn anghyfreithlon. Nid yw nifer o landlordiaid yn ymwybodol o’r gyfraith a ddim yn sylweddoli efallai eu bod yn gwneud rhywbeth anghyfreithlon. Gellwch ofyn i’ch landlord:

  • Eich gadael yn ôl i mewn i’r eiddo
  • Rhoi’r gorau i geisio eich troi allan o’ch cartref yn anghyfreithlon
  • Rhoi’r gorau i’ch hambygio
  • Dychwelyd eich eiddo

Dywedwch wrth eich landlord y byddwch yn cymryd camau pellach oni fydd hyn yn digwydd. Mynnwch gymorth gan ganolfan gynghori megis eich canolfan Cyngor Ar Bopeth leol, Shelter Cymru neu’r Tîm Opsiynau Tai ar 01248 750057. Yn aml, mae’n ddefnyddiol cael tyst annibynnol (megis ymgynghorydd neu ffrind) rhag ofn y byddwch angen tystiolaeth yn nes ymlaen. Cadwch gopïau o unrhyw lythyrau y byddwch yn eu hanfon at eich landlord neu’n eu derbyn ganddo.

Cymryd camau drwy’r llys

Oni fyddwch yn llwyddo i negodi gyda’ch landlord, efallai y gellwch gymryd camau drwy’r llys sirol i gael yn ôl i mewn i’ch cartref. Mae gan y llys y grym i roi gwaharddeb frys i chi a fydd yn gorfodi’r landlord i’ch gadael yn ôl i mewn i’ch cartref. Gall y llys hefyd roi iawndal.

Os bydd angen cymorth pellach arnoch yn hyn o beth, cysylltwch os gwelwch yn dda gyda Thîm Opsiynau Tai’r Cyngor ar 01248 750057.