Skip to content

Cyngor Sir Ynys Môn - Isle of Anglesey County Council

Grant Cymorth Tai


Mae gan bob awdurdod lleol yng Nghymru dîm Grant Cymorth Tai sy’n gyfrifol am fonitro, adolygu a datblygu gwasanaethau cymorth cysylltiedig â thai.

Mae cymorth yn golygu eich helpu chi i wneud rhywbeth, yn hytrach na gwneud rhywbeth ar eich rhan, ‘gwneud gyda’ yn hytrach na ‘gwneud dros’. Mae enghreifftiau o gymorth o’r fath yn cynnwys:

  • cymorth i gynnal tenantiaeth
  • cymorth i reoli arian / talu biliau
  • cymorth i gadw eich cartref yn ddiogel
  • cymorth i gael mynediad at addysg a chyflogaeth a chadw apwyntiadau
  • cymorth gyda budd-daliadau ac arian
  • cymorth i ddeall a llenwi ffurflenni
  • cymorth i fod yn rhan o’r gymuned leol ac i ymuno â grwpiau
  • cymorth i ailsefydlu cydberthnasau
  • cymorth i ganfod llety addas

Gellir darparu cymorth drwy gyfrwng wasanaethau cymorth hyblyg NEU lety â chymorth.

Mae Cymorth Hyblyg yn wasanaeth hyblyg sydd yn helpu pobl i gael tenantiaeth a’i gynnal.

Mae Cymorth Hyblyg yn darparu cymorth ymarferol a chyngor i bobl fregus o fewn eu cartrefi eu hunain a’r gymuned.

Pwrpas y llety â chymorth yw galluogi pobl i fyw mor annibynnol â phosib o fewn eu cymuned, gyda ffocws gwirioneddol ar gynhwysiad cymdeithasol.

Mae gwasanaethau llety â chymorth yn cynnwys hostelau, llochesi, tai gwarchod, llety gofal ychwanegol, neu fflatiau hunangynhwysol. Ni fyddai tenant yn byw mewn eiddo llety â chymorth yn y lle cyntaf oni bai eu bod angen cymorth.

Sut i gael mynediad i'r Grant Cymorth Tai

Un Pwynt Mynediad Grant Cymorth Tai (SPOA)

Mae’r llwybr cyfeirio Un Pwynt Mynediad ar gyfer y Grant Cymorth Tai yn gwirio’r atgyfeiriad er mwyn sicrhau ei fod yn addas ac yn gymwys ac yna’n ei gyfeirio at y darparwr cymorth mwyaf priodol.

Bydd y darparwr gwasanaeth yn cysylltu â’r person ac yn trefnu bod asesiad yn cael ei gwblhau ac yna bydd y darparwr a’r person bregus yn cytuno ar y math a’r lefel o gefnogaeth i’w ddarparu. Os ydych chi, neu rywun yr ydych yn eu hadnabod, angen cymorth cysylltiedig â Thai gallwch:

  • ofyn i’r gweithiwr cymdeithasol neu weithiwr iechyd, neu unrhyw weithiwr proffesiynol arall o asiantaethau megis Tai, y Gwasanaeth Prawf, Addysg neu’r Adran Gwaith a Phensiynau i gysylltu ar eich rhan
  • gofyn i ffrind neu aelod o’r teulu gysylltu ar eich rhan
  • gysylltu eich hun drwy anfon e-bost neu lenwi ffurflen gyfeirio

Manylion Cyswllt Un Pwynt Mynediad

Housing Support Grant logoE-bost: spoa@ynysmon.gov.uk
Ffôn: 01248 751937

neu dewch i Swyddfa’r Cyngor i siarad â Swyddog:

Swyddog Un Pwynt Mynediad
Adran Dai
Prif Swyddfa’r Cyngor
Llangefni
LL77 7TW

Os oes angen fersiwn mwy hygyrch arnoch, anfonwch neges at digidol@ynysmon.llyw.cymru er mwyn i ni allu eich helpu.