Skip to content

Cyngor Sir Ynys Môn - Isle of Anglesey County Council

ECO 4: y cynllun


Dyma gynllun y Llywodraeth sy'n darparu cyllid ar gyfer gwelliannau effeithlonrwydd ynni yn y cartref megis system gwres canolog newydd, gwella'r system wresogi bresennol a/neu inswleiddio a/neu paneli solar.

Bydd ECO4 yn gynllun pedair blynedd a bwriedir iddo redeg rhwng 1 Ebrill 2022 a 31 Mawrth 2026.

Prif amcan ECO4 yw gwella'r stoc tai lleiaf ynni-effeithlon a feddiannir gan aelwydydd incwm isel ac agored i niwed. 

Y nod yw cefnogi’r cartrefi yn Ynys Mon sy’n fwyaf tebygol o ddioddef o dlodi tanwydd, a’r rhai sy’n fwyaf agored i effeithiau cartref oer. 

Os ydych yn berchennog-preswyl neu'n rhentu'n breifat ac nid yw'ch cartref yn un ynni-effeithlon, mae'n bosib y gellid darparu arian i wella hyn. Byddai hyn hefyd yn fanteisiol gan y byddai eich biliau tanwydd yn is. 

Os oes gwaith yn cael ei wneud ar eich eiddo o dan y cynllun hwn, cofiwch mai cytundeb rhyngoch chi â’r contractwr sy’n bodoli yma ac nid â Chyngor Sir Ynys Mon. Ac yn benodol, ni fyddai'r cyngor yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb am unrhyw golled a geir neu y gellir ei chael drwy’r cynllun penodol hwn. 

Cysylltwch â'r contractwyr i weld sut y gallan nhw eich cefnogi.

Cyflenwyr cymeradwy

Menai Heating

Ffôn: 01248 421 044 

Gwefan: https://menaiheating.co.uk/

Sprint Renewables

Ffôn: 01244 651 211

Gwefan: https://www.ignitese.co.uk/

CITY ENERGY

Ffôn:02920 499183

Gwefan: https://www.cityenergy.co.uk/

DK HUGHES

Ffôn: 01407 881195

Gwefan: https://dkhughes.co.uk/

Stellar Energy

Ffôn: 01554 788766

Gwefan: https//www.stellarenergy.org/

Broad Oak Properties

Ffôn: 01352 870979

Gwefan: https://www.broadoakproperties.co.uk/