Skip to content

Cyngor Sir Ynys Môn - Isle of Anglesey County Council

​Asesiad Lletya Sipsiwn a Theithwyr


Yn ystod hydref 2015, cynhaliodd Cynghorau Ynys môn a Gwynedd asesiad ar y cyd o anghenion Sipsiwn a Theithwyr am leiniau neu safleoedd yn y ddwy ardal.

Yn unol â Deddf Tai (Cymru) 2014, rhaid i bob awdurdod lleol yng Nghymru gynnal asesiad cyn Chwefror 2016.

Mae canlyniadau’r asesiad wedi eu cynnwys mewn dogfen statudol o’r enw Asesiad o Anghenion Llety Sipsiwn a Theithwyr Ynys Môn a Gwynedd 2016 (yr Asesiad).

Cymeradwywyd yr Asesiad gan Gabinet Cyngor Gwynedd ar 19 Ionawr a chan Bwyllgor Gwaith Cyngor Sir Ynys Môn ar 8 Chwefror 2016. Mae Asesid Ynys Môn a Gwynedd wedi nodi bod angen y canlynol ar Ynys Môn:

  • Safle preswyl parhaol i gwrdd ag anghenion y Teithwyr Newydd sy’n deillio o’r safle anawdurdodedig a oddefir yn Ffordd Pentraeth (pedair llain)
  • Dau safle i’w defnyddio fel Mannau Aros Dros Dro ar gyfer Sipsiwn a Theithwyr ar hyd yr A55 ar Ynys Môn – un yn ardal Caergybi ac un yng nghanol yr Ynys
Os oes angen fersiwn mwy hygyrch arnoch, anfonwch neges at digidol@ynysmon.llyw.cymru er mwyn i ni allu eich helpu.