Gwasanaethau'r Cyngor:

Cyfranogiad tenantiaid

Mae Cyfranogiad Tenantiaid yn gyfle i chi, fel un o denantiaid Cyngor Sir Ynys Môn, gael dweud eich dweud ynglyn â’r modd y mae eich cartref yn cael ei reoli.

Mae’r Gwasanaethau Tai yn ymrwymo i ddarparu gwasanaethau gwell drwy siarad gyda’r tenantiaid a gwrando arnynt. Byddwn yn ceisio rhoi amrediad eang o ddewisiadau i chi fel y gellwch gyfranogi mewn modd sy’n eich siwtio chi.

Pam ddylwn i gymryd rhan?

Gallwch helpu i wella ein Gwasanaethau Tai er mwyn cwrdd ag anghenion tenantiaid drwy fod yn rhan o’r penderfyniadau sy’n cael effaith arnoch chi, eich cartref a’ch cymuned.

Faint o amser fyddai’n rhaid i mi ei roi i gymryd rhan?

Gellwch roddi cyn lleied neu cymaint o amser ag y mynnwch. Edrychwch, os gwelwch yn dda, ar y ‘Rhestr o opsiynau’ i weld sut y gallwch chi gymryd rhan a’r ymrwymiad y bydd rhaid i chi ei wneud.

Beth ddylwn i ei wneud os hoffwn gyfranogi fel tenant neu os hoffwn gael mwy o wybodaeth ?

Cysylltwch gyda’r Tîm Cyfranogiad Tenantiaid gan ddefnyddio’r manylion isod. Gweler y llyw ar y dde.

Diweddariad diwethaf: 9 Awst 2011 Rhowch adborth ar y dudalen hon
Llyfrnodwch gyda:
| More |

Beth yw'r rhain?